Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo cyflogadwyedd graddedigion y Gymraeg

19 Rhagfyr 2017

Croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, nifer o raddedigion llwyddiannus diweddar yn ôl i’r Ysgol ar gyfer noson gyrfaoedd i fyfyrwyr cyfredol nos Fawrth 21 Tachwedd 2017.

Dyma’r ail flwyddyn i’r Ysgol gynnal noson o’r fath, sy’n gyfle i fyfyrwyr glywed am yrfaoedd graddedigion yr Ysgol a’r mathau o swyddi a phrofiadau maent wedi’u cael ers gadael y Brifysgol.

Eleni, dychwelodd pum cyn-fyfyriwr i drafod eu gyrfaoedd a rhannu mewnwelediadau i’w hanturiaethau proffesiynol yn y gweithle Cymraeg, ac i bwysleisio sut yr oedd y sgiliau a ddatblygasant yn ystod ei cyfnod yn astudio yn Ysgol y Gymraeg yn gwbl hanfodol iddynt yn eu gwaith. Roedd y siaradwyr yn cynrychioli amrywiaeth eang o sectorau a meysydd proffesiynol gan gynnwys cyfieithu, cyfathrebu a marchnata, cynhyrchu rhaglenni teledu, a pholisi iaith. Y rheini a gyfrannodd oedd:

  • Steffan Bryn (BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth, 2016) - Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
  • Ellen Carter (BA yn y Gymraeg, 2016 / MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, 2018) - Amgueddfa Cymru
  • Bethan Huws (BA yn Y Gymraeg, 2012 / MPhil 2016) - Boom Cymru
  • Cadi Thomas (BA Cymraeg a Hanes, 2012 / MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, 2015) - Prifysgol Caerdydd
  • Sara Vaughan (BA yn Y Gymraeg, 2014) - Prifysgol Caerdydd

Dywedodd Dr Lisa Sheppard, Swyddog Cyflogadwyedd Ysgol y Gymraeg: “Mae gennym enw da iawn fel Ysgol sydd yn paratoi myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer y gweithle Cymraeg cyfoes. Mae hybu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni. Rydym wedi ymrwymo i helpu pob un i wireddu eu huchelgeisiau proffesiynol a chyfrannu at ddatblygiad iaith, diwylliant ac economi’r wlad. Yn ddiweddar rydym wedi ehangu ein darpariaeth trwy gynnig rhagor o gyfleoedd i’n myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith. Dyma gyfle i gael profiad ymarferol o’r byd gwaith a datblygu dealltwriaeth gadarn o ddisgwyliadau cyflogwyr. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd gael blas ar ba mor hanfodol yw gweithwyr a chanddynt sgiliau Cymraeg o’r safon uchaf i’r gweithlu yn y Gymru gyfoes.”

Ychwanegodd: “Yn yr arolwg diwethaf o gyrchfan graddedigion yr Ysgol, roedd 100% o raddedigion yn gweithio neu mewn astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio. Rydym yn falch iawn o’r canlyniadau ond nid ydym yn hunanfoddhaol ac fe wnawn ni barhau i ddatblygu ein darpariaeth academaidd a’r cyfleoedd ymarferol sydd ar gael i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r Brifysgol.”

Mae graddau sengl a chydanrhydedd Ysgol y Gymraeg yn paratoi myfyrwyr at ystod o yrfaoedd proffesiynol yn y Gymru gyfoes a thu hwnt. Mae gan yr Ysgol ddwy rhaglen newydd ar gyfer Mynediad 2018, sef BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol a BSc Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg. Mae’r ddarpariaeth newydd hon yn golygu bod yr Ysgol yn parhau i gyfoethogi profiadau myfyrwyr a darparu’r cyfleoedd gorau posibl iddynt yn y Brifysgol, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer dyfodol disglair.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.