Ewch i’r prif gynnwys

Perygl Twrci "brwnt" ar ôl Brexit os daw’r Deyrnas Unedig i gytundeb masnach ag UDA

18 Rhagfyr 2017

Turkey

Gallai defnyddwyr fod yn bwyta twrci “brwnt” wedi’i glorineiddio adeg y Nadolig os bydd y Deyrnas Unedig yn cytuno ar drefniant masnach ôl-Brexit gydag UDA, yn ôl papur briffio newydd gan arbenigwyr blaenllaw ym maes polisi bwyd.

Canfu'r tîm – o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Sussex, a’r Ddinas, Prifysgol Llundain – nad yw dofednod yr Unol Daleithiau, sy’n cael eu golchi mewn hyd at bedwar o ddiheintyddion cemegol, yn bodloni safonau diogelwch yr UE. Canfu’r academyddion hefyd y defnyddir cemegau yn yr Unol Daleithiau i olchi ffrwythau, llysiau a physgod.

Maent yn rhybuddio y byddai siopwyr Prydain yn fwy diogel petai’r Deyrnas Unedig yn cadw at safonau’r UE, ac yn dweud y dylai mesurau rheoli’r dyfodol fod “yn llymach, nid yn wannach”.

Bu’r Athro Erik Millstone (Prifysgol Sussex), yr Athro Tim Lang (Dinas, Prifysgol Llundain) a'r Athro Terry Marsden (Prifysgol Caerdydd) yn cymharu safonau cyfredol y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd â rhai UDA, a daethant i’r casgliad fod defnydd diwydiant bwyd yr Unol Daleithiau o ddiheintyddion cemegol yn achosi risgiau i gwsmeriaid a gweithwyr yn y diwydiant.

Codwyd y cwestiwn a fyddai’r Deyrnas Unedig yn mewnforio cig a olchwyd mewn clorin ar ôl Brexit pan rybuddiodd Ysgrifennydd Masnach yr UD, Wilbur Ross, y byddai trefniant masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau ar ôl Brexit yn golygu bod rhaid i’r Deyrnas Unedig gefnu ar safonau’r UE.

Dywedodd yr Athro Erik Millstone: "Dylai’r Deyrnas Unedig barhau i fynnu bod safonau hylendid yn cael eu gwella mewn ffermydd dofednod, lladd-dai a gweithfeydd torri cig, heb adael i’r safonau ostwng, na cheisio dibynnu ar ddiheintyddion cemegol i leihau’r niwed y gall cig afiach ei achosi. Byddai defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig yn fwy diogel o gadw at safonau’r UE, a gwrthod derbyn dofednod yr UD, sydd wedi’u golchi mewn diheintydd ond yn dal yn frwnt.”

Daeth y papur newydd – a gyhoeddwyd gan y Food Research Collaboration, rhwydwaith rhwng prifysgolion sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Polisi Bwyd y Ddinas - i'r casgliad:

  • Bod llawer rhy ychydig o astudiaethau wedi cael eu cynnal ar ddofednod a olchwyd mewn diheintydd
  • Bod y set ddata sydd ar gael yn llawn tyllau
  • Bod rhai astudiaethau wedi cynhyrchu data sy'n dangos bod risgiau sylweddol.

Cemegau yr UD

Nid yw’n gyfreithlon i’r twrcïod a'r ieir sydd ar werth yn y Deyrnas Unedig y Nadolig hwn gael eu golchi â phedwar cemegyn y mae masnach dofednod yr UD yn eu galw’n ‘driniaethau lleihau pathogenau’ (PRTs).

Mae'r papur briffio yn nodi’r set o ddogfennau gwyddonol a pholisi, a gymeradwywyd gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r UD, sy’n esbonio pam mae diwydiant dofednod UDA yn defnyddio’r cemegau hyn, a pham nad ydynt yn cael eu caniatáu yn y Deyrnas Unedig na’r UE.

Yn ôl yr awduron, mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu golchi â diheintyddion oherwydd eu bod, wrth gyrraedd lladd-dai a gweithfeydd torri cig yr UD, wedi’u halogi’n llawer gwaeth â budreddi heintus, gan gynnwys carthion, nag sy’n digwydd yng nghadwyn cyflenwi bwyd gyfredol y Deyrnas Unedig.

Mae dull gweithredu’r Deyrnas Unedig a’r UE yn mynnu bod safonau hylendid yn y gadwyn gyflenwi yn ddigon uchel fel nad oes angen diheintio â chemegau.

Mae'r ystadegau a ddyfynnir yn y papur briffio yn dangos bod 97 y cant o'r cig brest cyw iâr yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys pathogenau megis E.coli a salmonela.

Defnyddir y cemegau PRT a gymeradwyir yn yr UD i olchi ieir, twrcïod, a mathau eraill o gig, yn ogystal â physgod, ffrwythau a llysiau. Y cemegau yw: asid perocsyasetig, clorin deuocsid, chlorit sodiwm wedi’i asideiddio, a thrisodiwm ffosffad (E 339 iii). Mae’r awduron yn dadlau, os bydd y Deyrnas Unedig yn caniatáu cig a olchwyd mewn PRTs, y gallen nhw gael eu caniatáu hefyd wedyn ar gyfer pysgod, ffrwythau a llysiau.

Canfu’r papur briffio hefyd fod tystiolaeth y gall PRTs gyfrannu at ffurfio cyfansoddion gwenwynig wrth ryngweithio â chnawd dofednod; gallai defnyddio PRTs waethygu’r siawns y bydd bacteria sy’n medru gwrthsefyll diheintyddion yn dod i’r amlwg.

Dywedodd yr Athro Tim Lang; "Ni allwn gefnogi unrhyw wanhau ar safonau hylendid bwyd y Deyrnas Unedig. Nid dyna’r hyn mae defnyddwyr y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio drosto, ac ni fu ymgynghori ar hyn. Yr oeddem yn synnu wrth sylweddoli bod caniatâd i ddefnyddio PRTs i olchi pysgod, ffrwythau a llysiau, yn ogystal â dofednod. Gallai hyn greu adwaith negyddol ymhlith defnyddwyr y Deyrnas Unedig."

Argymhellion

Mae academyddion yn cyfeirio at adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, sy’n dweud bod “rhaid peidio â defnyddio diheintyddion i guddio arferion hylendid gwael".

"Mae hwn yn un o gyfres o bryderon diogelwch bwyd y mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth i broses Brexit fynd rhagddi. Mae angen i'r Deyrnas Unedig wella ei safonau cynhyrchu a phrosesu bwyd dwys, a pheidio â rhoi anifeiliaid a defnyddwyr mewn perygl."

Mae arbenigwyr yn gwneud cyfres o argymhellion, gan gynnwys y canlynol: bod y Deyrnas Unedig yn ymrwymo o leiaf i gynnal safonau diogelwch ac ansawdd; dylai iechyd cyhoeddus, elfennau amgylcheddol, lles anifeiliaid a chyrff defnyddwyr ddod at ei gilydd i atal dofednod, pysgod, ffrwythau a llysiau a olchwyd â diheintyddion cemegol yn y Deyrnas Unedig.

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages