Ewch i’r prif gynnwys

Dilyniannu'r genom dyfrgwn i wella monitro amgylcheddol

6 Rhagfyr 2017

Otter with fish

I nodi 25 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome byddant yn datgodio DNA 25 o rywogaethau'r DU am y tro cyntaf, a nod Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yw rhyddhau genom dyfrgwn i'w cyhoedd drwy gynnal pleidlais gyhoeddus.

Fel rhan o brosiect 25 Genom, mae Ymddiriedolaeth Wellcome yn cynnal pleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y pum rhywogaeth fydd yn cael eu genom wedi'i fapio.

Prosiect Dyfrgwn Ysgol y Biowyddorau yw'r 'hyrwyddwr rhywogaeth' yn y gystadleuaeth, a'i nod yw ennill un o'r pum lle.

Dywedodd Dr Elizabeth Chadwick, Pennaeth Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn cymryd rhan mewn llawer o sgyrsiau ar-lein gyda grwpiau ysgol a'r cyhoedd ehangach i gael pobl i bleidleisio ar gyfer y dyfrgi ym Mhrosiect 25 Genom.

"Os byddwn ymhlith un o'r pum rhywogaeth sy'n ennill, bydd genom dyfrgwn yn cael ei ddilyniannu a'i gyhoeddi, a byddai hynny'n gyfraniad gwych at ein hymchwil yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Bydd cael dilyniant genom y dyfrgi yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i'r ymchwilwyr sy'n gweithio gyda dyfrgwn yma yng Nghaerdydd, a ledled y byd."

Mae Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynllun gwyliadwriaeth amgylcheddol tymor hir i ymchwilio i halogion, clefydau a bioleg poblogaeth ledled y DU.

Mae'r cynllun cenedlaethol yn casglu dyfrgwn a ganfuwyd yn farw, yn aml oherwydd damweiniau ar y ffyrdd, ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Drwy archwiliad post-mortem, gall yr ymchwilwyr gasglu arsylwadau, mesuriadau a samplau biolegol sy'n gallu bod yn fuddiol iawn ar gyfer ymchwil ecolegol.

Byddai dilyniannu'r genom dyfrgwn yn helpu ymchwil sylfaenol a gwaith cadwraeth gymhwysol.

Dywedodd Dr Frank Hailer, Genetegydd Poblogaeth a rhan o dîm Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: "Byddem yn gallu deall sut mae dyfrgwn wedi eu haddasu ar gyfer eu hamgylchedd, a byddai hyn yn ein galluogi i ddylunio dulliau monitro newydd.

"Mae monitro dyfrgwn drwy samplau DNA o'u gwallt a'u hysgarthion yn bwysig dros ben, ond yn heriol iawn.

"Bydd dilyniannu genom dyfrgwn yn helpu i wella cyfraddau llwyddiant y dadansoddiad ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o ddosbarthiad ac ymddygiad dyfrgwn.

"Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen cymaint o bleidleisiau â phosibl gan y cyhoedd."

Bydd pleidleisio ar gyfer Prosiect 25 Genom yn cau ar 8 Rhagfyr.

Os hoffech bleidleisio ar gyfer Prosiect Dyfrgwn a helpu i sicrhau y bydd genom dyfrgwn yn cael ei ddilyniannu, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon