Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad ymchwil o bwys yn ennill gwobr dylunio

18 Mai 2015

Exterior of the Hadyn Ellis Building

Mae adeilad ymchwil blaenllaw yn y Brifysgol, gwerth £30m, wedi ennill gwobr mawr ei bri yn y diwydiant am ei ddyluniad. 

Daeth adeilad Hadyn Ellis i'r brig yn y categori Dylunio Drwy Arloesi yng Ngwobrau Blynyddol RICS Cymru 2015.

Bydd yn awr yn mynd ymlaen i'r gwobrau RICS Cenedlaethol yn Llundain yn ddiweddarach yn 2015.

Roedd y beirniaid yn edrych am dystiolaeth bod dylunio arloesol a chreadigol wedi gwella'r prosiect mewn sawl ffordd.

Dywedodd y beirniaid: "Nod y prosiect oedd creu adeilad lle gellir gwneud gwaith ymchwil arloesol i nifer amrywiol o broblemau meddygol, gan gynnwys ymchwil bôn-gelloedd canser a chlefyd Alzheimer, mewn amgylchedd cynhwysol, amlddisgyblaethol.

"Mae atriwm canolog, gyda nodweddion acwstig rhyfeddol, yn fan croesawus rhwng labordai ymchwil a swyddfeydd agored, ac yn ateb i'r broblem awyru naturiol mewn amgylchedd sy'n defnyddio mwy a mwy o ynni.

Tu allan i adeilad Hadyn Ellis
Tu allan i adeilad Hadyn Ellis

"Mae'r adeilad yn rhoi wyneb cyhoeddus i'r brifysgol ymgysylltu â noddwyr, yn ogystal â chyrff cyhoeddus ac allanol."

Roedd adeiladau eraill ar y rhestr fer yn y categori hwn yn cynnwys Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd.

Mae Adeilad Hadyn Ellis, ar gampws arloesedd newydd y brifysgol, yn gartref i gyfleusterau hynod ddatblygiedig ar gyfer rhai o dimau ymchwil y Brifysgol sy'n arwain y blaen ar weddill y byd.

Mae hefyd yn gartref i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Choleg Graddedigion y Brifysgol.

Mae'r llawr gwaelod yn cynnwys ardal gyhoeddus ar gyfer darlithoedd, arddangosfeydd a chynadleddau am waith y brifysgol, a darlithfa i 150 o bobl.

Exterior of the Hadyn Ellis Building 3

Mae'r adeilad wedi ei enwi er cof am y diweddar Athro Hadyn Ellis, Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol.

Mae eisoes wedi cael ei gydnabod am ei gynaliadwyedd, a dyfarnwyd categori Addysg Uwch Gwobrau Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) Cymru iddo yn 2012.

Rheolwyd y prosiect gan dîm Ystadau'r Brifysgol, gyda phartneriaid gan gynnwys y penseiri IBI Nightingale, Syrfewyr Meintiau a sifil CAPITA a'r contractwyr BAM.

Rhannu’r stori hon