Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo amlieithrwydd a hybu trosglwyddo iaith

16 Tachwedd 2017

Dr Jonathan Morris a chyd-ymchwilwyr yn trafod ymchwil diweddaraf ar drosglwyddo iaith o fewn y teulu a magu plant amlieithog yn nigwyddiad Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol,  9 Tachwedd 2017.

Fel rhan o wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y Deyrnas Unedig, cynhaliwyd sesiwn gan Dr Jonathan Morris, o Ysgol y Gymraeg, ar fagu plant dwyieithog a theuluoedd amlieithog.

Roedd y digwyddiad yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi’i gynorthwyo gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ac yn gyfle i hyrwyddo a rhannu ymchwil newydd ac arloesol y Brifysgol ym meysydd polisi cymdeithasegol a chymdeithaseg.

Yn ymuno â Dr Morris ar y noson oedd ei gyd-ymchwilydd ar yr adroddiad ‘Trosglwyddo’r Gymraeg ai defnydd mewn teuluoedd’, prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Dr Jeremy Evas. Hefyd yn cyflwyno ar y noson oedd Kaisa Pankakoski, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg, a Dr Robert Mayr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Daeth cynulleidfa frwd a gwybodus ynghyd i glywed y cyflwyniadau a chyfrannu’n ddwys at y sesiwn cwestiwn a holi.

Roedd Dr Morris a Dr Evas yn cyflwyno eu hymchwil i’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar drosglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd gan dynnu ar yr amodau sydd yn hwyluso neu rhwystro trosglwyddo’r Gymraeg o fewn teuluoedd. Trafodwyd hefyd ganfyddiadau cyfweliadau gyda 60 o deuluoedd. Yn gyffredinol, nid oedd ymatebwyr a oedd wedi caffael y Gymraeg trwy fynychu ysgolion Cymraeg wedi ystyried siarad Cymraeg â’u plant. Er hyn,  roeddent yn awyddus i’w plant fynychu ysgolion Cymraeg. Awgrymodd Dr Morris a Dr Evas fod hyn yn enghraifft o roddi iaith yn hytrach na throsglwyddo iaith yn naturiol rhwng y cenedlaethau.

Trafododd Dr Mayr ddatblygiad ieithyddol plant amlieithog ynghyd â’r camsyniadau ac effaith dysgu dwy iaith ochr yn ochr ar ddatblygiad ieithyddol cyffredinol.

Cyflwynodd Kaisa Pankakoski, sydd yn ddiweddar wedi dychwelyd o gyfnod ymchwil yn y Ffindir, ar strategaethau y mae teuluoedd yn eu defnyddio i hyrwyddo teiriethrwydd. Dyma yw brif nod ei thraethawd ymchwil yn ogystal ag ystyriaeth o’r ffactorau cymdeithasol sydd yn dylanwadu ar drosglwyddo iaith mewn teuluoedd teirieithog.

Dywed Dr Morris: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gynulleidfa a ddaeth i’r digwyddiad. Roedd hi’n amlwg bod gan bawb ddiddordeb personol neu broffesiynol yn y pwnc ac roedd hi’n braf cael clywed am eu profiadau o gaffael a throsglwyddo amrywiaeth o ieithoedd lleiafrifol ar yr aelwyd. Rwyf wir yn gobeithio y bydd cyfle inni drefnu rhagor o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.”

Darllenwch adroddiad lawn Dr Jonathan Morris, Dr Jeremy Evas a Dr Lorraine Whitmarsh.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.