Ewch i’r prif gynnwys

Hola o Batagonia!

17 Ebrill 2014

Enillodd dwy fyfyrwraig ysgoloriaethau gan Ysgol y Gymraeg, trwy haelioni cynllun 'Prifysgolion Santander', i deithio i'r Wladfa yn ystod gwyliau'r haf. 

Derbyniodd Siwan Gwyn Jones o Gaerfyrddin ac Angharad Lewis o Lanfair Caereinion, sydd ar fin dechrau ar flwyddyn olaf eu hastudiaethau, ysgoloriaethau o £3,000 yr un i fynd am fis o brofiad gwaith ym Mhatagonia.

Yn ystod eu cyfnod o brofiad gwaith yn gweithio i Fenter Patagonia yn y Gaiman, cynhyrchodd y ddwy fideo yn sôn am eu profiadau yn y Wladfa.

Rhannu’r stori hon