Ewch i’r prif gynnwys

Nofel ar Y Silff Lyfrau

30 Medi 2014

Mae Rhyw Flodau Rhyfel, nofel gyntaf Dr Llŷr Gwyn Lewis, sef un o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg, wedi'i dewis i fod yn un o gyfrolau'r Silff Lyfrau eleni.

Prosiect blynyddol Cyfnewidfa Lên Cymru yw'r Silff Lyfrau lle rhoddir sylw i chwe llyfr o Gymru ar y wefan (3 yn Gymraeg a 3 yn Saesneg), er mwyn hyrwyddo'r llyfrau yn rhyngwladol a denu cyhoeddwyr o wledydd eraill i'w cyfieithu a'u cyhoeddi mewn amrywiol ieithoedd.

Rhannu’r stori hon