Ewch i’r prif gynnwys

Bragu botanegol yn gwneud 'Cwrw Gwenyn Fferyllol'

30 Tachwedd 2017

Pharmabees beer launch

Mae cwrw newydd sy'n cyfuno gwybodaeth am fragu ag arbenigedd y Brifysgol yn cael ei lansio yn Good Food Show y BBC yn Birmingham heddiw.

Mae Mêl wedi ei greu gan Bang-On Breweryo Ben-y-bont ar Ogwr a gwyddonwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae Neil Randle, sylfaenydd Bang-On Brewery, a’r Athro Les Baillie wedi dod ynghyd i gynhyrchu cwrw potel gan ddefnyddio'r mêl o brosiect Gwenyn Fferyllol yr Ysgol. Yn rhan o’r prosiect hwn, maent wedi gosod cychod gwenyn ar draws Caerdydd i geisio dod o hyd i fêl therapiwtig Cymreig sydd cystal â mêl enwog Manuka o Seland Newydd.

Dywedodd Neil Randle: "Cefais fy nghyflwyno i Les gan Robyn Davies, o Bartneriaeth Gwyddor Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru, sy’n adnabod y ddau ohonom. Ar ôl sgwrsio am brosiectau, sylweddolodd Les a minnau y gallwn ddod ynghyd i wneud cwrw sy'n cyfuno daioni naturiol mêl gyda chynhwysion botanegol a nodwyd yn wyddonol.

"Mae Les a'i dîm wedi cyfrannu at gynhyrchu mêl rhagorol sy'n cyfuno gwyddoniaeth â natur. Maent wedi defnyddio dulliau gwyddonol i nodi pa fflora a ffawna sy’n rhoi’r cynhwysion botanegol naturiol gorau er mwyn cael yr effaith mwyaf cadarnhaol wrth ei fwyta. Yn ogystal, maent wedi profi hanner cant o amrywiaethau o hopys i asesu eu gweithgaredd gwrthfacteriaidd yn erbyn pathogenau dynol."

https://youtu.be/tQctVn4QQQU

Ar ôl penderfynu ar y cynhwysion cudd, lluniodd Craig Jackson o Bang-On Brewery rysáit i sicrhau bod blas a chydbwysedd y cwrw yn gywir.

Ychwanegodd Craig: "Nid ydym yn gwneud honiadau ynglŷn â manteision iechyd y cwrw. Mae'n ymwneud â chynhyrchu blas gwych yn y pen draw, ond rydym yn gobeithio y gall y prosiect cydweithredol yma newid sut caiff cwrw ei yfed yn y dyfodol."

Bydd y llwyth cyntaf o Fêl Bang-On yn cael ei lansio yn y Ganolfan Arddangos Genedlaethol yn ystod pedwar diwrnod Good Food Show y BBC (30 Tachwedd—3 Rhagfyr) cyn mynd ar werth i’r cyhoedd. Bydd cyfran o'r elw yn mynd tuag at gefnogi prosiectau peillio a lles ar draws Cymru.

Nod hirdymor yr Athro Baillie yw cyfuno arbenigedd academaidd a gwybodaeth am fragu: "Dyma ein cynnyrch cyntaf, ac mae’n gam i’r cyfeiriad cywir er mwyn creu diod wedi'i eplesu di-alcohol ar gyfer oedolion, a chredwn y bydd yn apelio’n fawr at y cyhoedd..."

"Mae hwn hefyd yn cefnogi’r fenter gymdeithasol yr ydym wedi’i sefydlu i gynorthwyo peillio, bioamrywiaeth, a hyfforddiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar draws y ddinas."

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Mae label y cwrw newydd 4% ABV yn disgrifio Mêl fel: 'Gwenyn Fferyllol sy’n pryderu am y byd yr ydym yn byw ynddo ac yn angerddol am ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.'

Mae prosiect Gwenyn Fferyllol Prifysgol Caerdydd yn gweithio hefyd i nodi cyffuriau sy'n deillio o blanhigion y gellid eu defnyddio i drin pathogenau ysbytai sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Dros y degawdau diwethaf mae nifer o rywogaethau o facteria wedi datblygu i wrthsefyll gwrthfiotigau, felly mae angen cynyddol i atal a rheoli ymddangosiad a lledaeniad gwrthiant gwrthficrobaidd mewn ysbytai.

Derbyniodd y Gwenyn Fferyllol, prosiect campws cyfeillgar i wenyn gydnabyddiaeth genedlaethol ac enillodd wobr Cynaliadwyedd yn y Guardian University Awards 2017

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.