Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn fuddugol yng Ngwobrau TechWorks 2017

27 Tachwedd 2017

IQE wafer

Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy'n fenter ar y cyd rhwng IQE plc a Phrifysgol Caerdydd, wedi ennill y teitl Ymchwil a Chydweithio yng Ngwobrau TechWorks 2017.

Noddir y wobr gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a chafodd ei chyflwyno mewn seremoni yn Llundain i gydnabod amryw lwyddiannau rhaglenni ymchwil a datblygu cydweithredol y Ganolfan, sydd wedi rhoi De Cymru ar y blaen ar gyfer datblygu, arloesedd a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy'n gysylltiedig â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Rydym wrth ein bodd i fod wedi ennill y wobr anrhydeddus hon ar lefel y DU. Mae cydweithio yn egwyddor hanfodol yn y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ac mae'n galluogi amrywiaeth o bartneriaid busnes ac academaidd i ddatblygu technolegau newydd sy'n seiliedig ar led-ddargludyddion cyfansawdd, a hynny o'r cam prototeipio hyd at y cam masnachol.

"Mae rhaglenni ymchwil a datblygu cydweithredol diweddar a enillwyd gan y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn garreg filltir bwysig tuag at sefydlu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yn y rhanbarth."

Dr Wyn Meredith Cyfarwyddwr, Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Cafodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu yn 2015 fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r arbenigwyr Lled Ddargludyddion Cyfansawdd IQE plc, sydd â'u pencadlys yng Nghaerdydd. Mae'n gweithio gyda Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd i gyflymu'r broses o fasnacheiddio ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhan hanfodol o'n cyfraniad at glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth..."

"Mae'r Ganolfan wedi'i seilio ar egwyddorion ymchwil ragorol a chydweithio arloesol; mae cael cydnabyddiaeth yn y meysydd hyn gan TechWorks yn rhoi llawer o foddhad i ni."

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Mae'r Ganolfan, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn garreg filltir hanfodol tuag at ddatblygu clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru.

Mae'r llwyddiannau ymchwil a datblygu diweddar yn cynnwys:

  • Project SUPER8, prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol gwerth £1.1m dan Innovate UK sy'n canolbwyntio ar ddatblygu platfform trawsdderbynyddion cyflym iawn i wasanaethu'r twf enfawr mewn cyfathrebu data optegol mewn canolfannau data cwmwl ar raddfa enfawr a
  • Phrosiect CS MAGIC (Compound Semiconductor MAGnetic Integrated Circuits) sy'n canolbwyntio ar ddatblygu magned-synwyryddion hynod sensitif gydag electroneg integredig.

Mae trosolwg o rhai o'r prosiectau sydd wedi cael gwobr ar gael ar wefan y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.