Ewch i’r prif gynnwys

Oes modd i wyddonwyr dinesig leoli morwellt y byd?

24 Tachwedd 2017

seagrass

Yn ôl prif awdur astudiaeth newydd ac ymgynghorydd gwyddonol Blue Planet II y BBC, gallai gwyddonwyr dinesig ddiogelu dyfodol dolydd morwellt drwy gasglu data newydd am y dolydd ar draws y byd.

Dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd ynghyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol James Cook yn Awstralia, mae'r astudiaeth yn awgrymu y gall gwyddonwyr dinesig fod yn allweddol er mwyn helpu i ateb cwestiynau byd-eang am ddolydd morwellt, eu lleoliad, iechyd, statws atgenhedlu a ffawna cysylltiedig.

Mae dolydd morwellt, sy’n gynefin morol allweddol, yn darparu bwyd a chysgod ar gyfer amrywiaeth eang o infertebratau, pysgod, mamaliaid ac adar. Maent yn hollbwysig ar gyfer masnach, adloniant a chynhaliaeth pysgota.

Hyd yma, mae tua 600,000 km² o forwellt wedi'u mapio’n fyd-eang, ond mae amcangyfrifon yn awgrymu gall bod cymaint â 4 miliwn km² o ddolydd morwellt i gyd sy’n golygu bod bylchau helaeth yn ein gwybodaeth.

Dywedodd Benjamin Jones, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, a oedd yn gynghorydd gwyddonol ar y bennod sydd i ddod o Blue Planet II ‘Green Seas’ (26 Tachwedd 2018): "Mae dolydd morwellt yn cefnogi amrywiaeth cyfoethog o fywyd morol, gan gynnwys rhywogaethau carismatig sydd o dan fygythiad gan gynnwys y morfarch, crwban a dugong. Maent hefyd yn darparu un o’r storfeydd mwyaf effeithiol o garbon ar y blaned gan ei fod yn ei gadw 35 gwaith yn fwy effeithiol nag ardal o goedwig law o’r un maint. Gallai cynnal y storfa hon fod yn allweddol i liniaru effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd. Os ydym am ddiogelu y cynefinoedd morol allweddol hwn, cefnogi bioamrywiaeth, cynhyrchiant pysgodfeydd a diogelu storfeydd carbon, mae angen i ni wybod ei leoliad."

Ychwanegodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, cyd-awdur sydd hefyd wyn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy: "I gau'r bwlch gwybodaeth byd-eang arwyddocaol hwn mae angen ymagwedd newydd. Dylai'r ymagwedd alluogi partneriaethau ac annog rhannu data rhwng llywodraethau, busnesau preifat, cyrff cadwraeth anllywodraethol a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio adnoddau ac offer rhwydd i'w ddefnyddio er mwyn tynnu ar gymuned fyd-eang o wyddonwyr dinesig i helpu i ddeall y cynefinoedd rhyfeddol hyn."

Un platfform gwyddoniaeth dinesig sydd wedi bod yn llwyddiannus yn barod yw SeagrassSpotter.  Crëwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac elusen cadwraeth forol Project Seagrass, er mwyn ymgysylltu a chefnogi gwyddonwyr dinesig morwellt ar ffurf arddull Pokémon-Go.

Seagrass spotter

Cafodd ei lansio yn swyddogol ym 2015, ac mae wedi cofnodi 750 o arsylwadau gan 360 o ddefnyddwyr mewn 94 o leoliadau yn rhanbarthau Gogledd yr Iwerydd, Môr y Canoldir a'r Caribî. Mae hyn yn cynnwys un lleoliad o weirglodd morwellt a welwyd yng Nghymru ac a recordiwyd ddiwethaf yn 1891. Dros y misoedd nesaf bydd SeagrassSpotter yn cael ei ehangu i gynnwys mwy o ranbarthau'r byd. Mae SeagrassSpotter hefyd yn un o brosiectau’r gwyddonydd dinesig sydd ar wefan Blue Planet II y BBC i annog pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i amddiffyn cefnforoedd y byd.

Ychwanegodd Ben: "Er ein bod o’r farn y dylai llywodraethau gael cyfrifoldeb statudol i fonitro, mapio a deall ein hadnoddau morwellt pwysig, nid yw’n afrealistig disgwyl i’r wybodaeth fod yn gyflawn. O ystyried y ffigurau gwylio diweddar ar gyfer Blue Planet II, dangosir bod y cyhoedd yn ymddiddori mwy yn yr amgylchedd morol. Mae ein hymchwil yn dangos bod angen dibynnu ar bobl leol i fod yn wyddonwyr dinesig er mwyn diogelu dyfodol y morwellt.

"Gall pobl ledled y byd ddechrau ein helpu nawr, drwy ychwanegu lleoliadau morwellt ar wefan SeagrassSpotter, neu drwy lawrlwytho yr ap a chyflwyno’r rhain allan yn y meysydd."

Cyhoeddir y papur, Crowdsourcing conservation: The role of citizen science in securing a future for seagrass, yng nghyfnodolyn Marine Pollution Bulletin.

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages