Ewch i’r prif gynnwys

Y cyhoedd yn ymuno â’r chwilio am donnau disgyrchol Einstein

24 Tachwedd 2017

0.4m telescope at the Las Cumbres Observatory

Mae gwyddonwyr yn gofyn am gymorth y cyhoedd i chwilio am arwyddion o donnau disgyrchol sy’n cael eu hallyrru ar draws y Bydysawd.

Bydd prosiect newydd sbon gwyddoniaeth i ddinasyddion o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag Arsyllfa Las Cumbres (LCO), yn gadael i’r cyhoedd edrych ar ddelweddau o rwydwaith byd eang o delesgopau, a hynny er mwyn helpu i chwilio am ddigwyddiadau anferthol sy'n cynhyrchu crychdonnau gofod-amser.

Bydd y chwilio’n ategu ymdrechion gan dimau Arsyllfa Tonnau Disgyrchol Mesuryddion Ymyriadau (Interferometer) Laser (LIGO) a Virgo sydd wrthi ar hyn o bryd yn gweithredu synwyryddion sensitif iawn yn yr Unol Daleithiau a’r Eidal, ac sydd eisoes wedi canfod pum signal disgyrchol hyd yma.

Ar ôl i dimau LIGO a Virgo ganfod signal disgyrchol posibl, byddant yn rhoi gwybod i aelodau o'r gymuned seryddiaeth ar unwaith. Bydd y rheini’n pwyntio eu telesgopau ar ran benodol o’r awyr er mwyn ceisio arsyllu’r digwyddiadau cosmig grymus sy’n cynhyrchu tonnau disgyrchol.

Gallai’r rhain fod ar ffurf dau dwll du’n uno, dwy seren niwtron yn gwrthdaro’n syfrdanol, neu hyd yn oed sêr yn ffrwydro’n ddramatig ac yn ddinistriol wrth iddynt ddechrau camau olaf eu hoes.

Ar ôl canfod signal posibl, bydd y cyhoedd yn gallu mewngofnodi i'r porth ar-lein a gweld delweddau y mae rhwydwaith telesgopau LCO wedi’u cael o bob rhan o’r byd. Byddant yn cael cyfres o ddelweddau cyn ac wedyn o’r pwynt penodol hwnnw yn yr awyr a gofynnir iddynt chwilio am newidiadau a all fod wedi digwydd. Os oes unrhyw beth o ddiddordeb yn y delweddau, bydd y cyhoedd yn gallu cadw llygad ar y gwrthrych wrth iddo newid.

"Drwy ein prosiect bydd unrhyw un ledled y byd yn gallu helpu i ddod o hyd i ffynonellau tonnau disgyrchol, ac ymchwilio ymhellach iddynt. Rydym yn edrych ymlaen at gynnwys llawer mwy o bobl yn y chwilio’r tro hwn, a gobeithio y byddwn yn ysbrydoli rhai o'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr,"

Dr Chris North Undergraduate Admissions Tutor, Ogden Science Lecturer, STFC Public Engagement Fellow

Rhagfynegwyd tonnau disgyrchol yn gyntaf gan Albert Einstein dros 100 mlynedd yn ôl, ac maent yn grychdonnau bach yng ngofod-amser sy'n cael eu hallyrru o ddigwyddiadau grymus, fel tyllau duon neu sêr niwtron yn gwrthdaro. Mae’r crychdonnau'n yn teithio drwy ofod-amser, gan greu afluniadau bychain yng ngofod-amser ei hun. Mae synwyryddion hynod sensitif yn gallu canfod y rhain ar y Ddaear.

Ym mis Hydref eleni, am y tro cynaf, canfu gwyddonwyr grychdonnau disgyrchol wedi’u hallyrru o sêr niwtron a oedd wedi gwrthdaro. Defnyddion nhw synwyryddion tonnau disgyrchol a thelesgopau traddodiadol yn seiliedig ar olau i wneud hyn.

Mae’r prosiect gwyddoniaeth i ddinasyddion yn un yn unig o’r prosiectau addysg o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd sydd wedi cael oriau arsyllu’n rhan o raglen addysg fyd-eang LCO. Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae LCO wedi cynnig amser arsyllu am ddim – 1,000 awr ar ei rwydwaith o delesgopau 0.4 metr yn ystod 2018 – i addysgwyr ledled y byd i ymgeisio amdanynt, er mwyn eu defnyddio mewn prosiectau addysg ac estyn allan.

Mae Universe in the Classroom yn fenter sy’n rhoi mynediad i blant ysgol at delesgopau LCO. Mae hyn yn helpu i wella dulliau addysgu a moderneiddio’r ffordd y mae pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael eu haddysgu i blant ifanc.

Mae Prosiect Telesgop Faulkes hefyd wedi cael oriau arsyllu newydd gan LCO. Nod y prosiect hwn yw darparu mynediad am ddim at delesgopau robotig a rhaglen addysg sydd wedi’i chefnogi'n llawn er mwyn annog athrawon a myfyrwyr i gymryd rhan mewn addysg gwyddoniaeth sy'n seiliedig ar ymchwil.

"Rydym yn falch iawn ein bod yn cefnogi cymaint o raglenni addysg o ansawdd uchel gan ddefnyddio ein rhwydwaith Telesgop unigryw. Rwy’n arbennig o falch fod Cymru’n tynnu'i phwysau, yn cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc ac i'r cyhoedd gael eu hysbrydoli drwy ddefnyddio telesgopau robotig,"

Dr Edward Gomez Honorary Lecturer

Bydd y 3 grŵp hyn, y mae pob un ohonynt â'u swyddfeydd addysg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn ymuno â 14 o bartneriaid addysg eraill o bedwar ban y byd a fydd yn defnyddio Arsyllfa Las Cumbres yn 2018.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.