Ewch i’r prif gynnwys

WordNet Cymraeg yn helpu i osod sylfeini ar gyfer technolegau yr iaith Gymraeg

23 Tachwedd 2017

wordnet

Mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy’n helpu i hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg iaith Gymraeg wedi derbyn cyllid fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg.

Mae WordNet Cymraeg yn arloesedd ar y cyd rhwng Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol.

Ei nod yw llunio cronfa ddata ar gyfer yr iaith Gymraeg a fydd yn grwpio geiriau sydd â’r un ystyr gyda'i gilydd. Bydd y gronfa ddata ar gael ar gyfer pobl yn ogystal â rhaglenni cyfrifiadurol. fydd yn hwyluso datblygiad technolegau yr iaith Gymraeg. Bydd eu rhaglenni yn ein galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ryngweithio â dyfeisiau clyfar.

Dywedodd yr Athro Irena Spasić, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, a fydd yn arwain y prosiect: "Mae WordNets yn cael eu defnyddio’n eang wrth brosesu iaith naturiol i gefnogi dealltwriaeth o'r ystyr a fynegwyd mewn iaith ysgrifenedig a llafar. Fel y cyfryw, mae WordNets yn hanfodol ar gyfer rhaglenni technoleg iaith fel ateb cwestiynau,adfer gwybodaeth a chyfieithu peirianyddol..."

"Bydd y rhain yn hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg digidol cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymraeg 2050."

Yr Athro Irena Spasic Senior Lecturer

Ychwanegodd Dr Dawn Knight, arbenigwr mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth sy'n cyfarwyddo Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC), "Bydd WordNet Cymraeg yn darparu adnodd cyfoethog sy’n canolbwyntio'n benodol ar yr iaith Gymraeg, yn cynrychioli grwpiau o eiriau Cymraeg fel cyfystyron, a’r berthynas semantig rhyngddynt..."

"Mae’r prosiect hwn yn galluogi defnyddwyr i archwilio patrymau mewn iaith yn seiliedig ar sut mae’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd gan siaradwyr Cymraeg."

Dr Dawn Knight Senior Lecturer

Bydd y prosiect hefyd yn elwa o arbenigedd Dr Steven Neale, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda WordNets mewn ieithoedd eraill.

Wrth gyhoeddi'r grantiau, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Rydym am i’r Gymraeg gael ei defnyddio’n rhan arferol o fywyd bob dydd er mwyn i siaradwyr ar bob lefel deimlo’n hyderus wrth ei defnyddio mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol..."

"Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn eu gwneud yn haws i bobl ddefnyddio'r iaith, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol."

Eluned Morgan Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Mae’ fenter sy’n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg a Grant Cymraeg 2050 yn elfennau allweddol o strategaeth yr Iaith Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Rhannu’r stori hon

O wybodaeth am ysgoloriaethau i gynlluniau ariannu staff, dysgwch mwy am sut gall ein Cangen eich helpu chi.