Ewch i’r prif gynnwys

Iaith a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes

11 Mai 2015

Bydd Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn rhan o drafodaeth ar rôl a phwysigrwydd iaith i hunaniaeth a chenedlaetholdeb yn dilyn perfformiad o A Good Clean Heart gan Alun Saunders.

Sioe newydd ddwyieithog am frodyr sydd yn dod i oed mewn teuluoedd gwahanol yn siarad ieithoedd gwahanol yw A Good Clean Heart. Mae'n codi nifer o gwestiynau am iaith, diwylliant a ffurfio hunaniaeth.

Cynhelir y drafodaeth nos Fercher 13eg Mai 2015 mewn partneriaeth â The Other Room Theatrea Caerdydd Creadigol. Bydd Lisa yn ymuno â'r dramodydd, Alun Saunders, a chyfarwyddwr y sioe, Mared Swain, i drafod themâu'r ddrama, eu profiadau nhw fel Cymry Cymraeg a chyfraniad iaith at ddatblygiad eu hunaniaethau.

Dywed Lisa: "Fel gwlad ddwyieithog, ni all Cymru danbrisio cyfraniad iaith i'w hunaniaeth, a phwysigrwydd iaith i'w chyd-destun diwylliannol a chymdeithasol. Mae themâu A Good Clean Heart yn siarad â'r Cymry cyfoes ac yn amlygu sefyllfa unigryw ein cenhedlaeth wrth ystyried dylanwad ein hiaith ar ein personoliaethau, ein dyheadau ac ar ein syniad o berthyn. Mae dwyieithrwydd yn agor ein llygaid i ddiwylliannau a safbwyntiau eraill sy'n holl bwysig mewn byd amlddiwylliannol."

Bydd y sioe yn dechrau am 7.30yh a'r drafodaeth yn dilyn. Cynhelir y perfformiad yn The Other Room Theatre, Porter's, Caerdydd. Cewch brynu tocynnau ar-lein neu wrth y drws.

Rhannu’r stori hon