Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect trawsnewid digidol

16 Tachwedd 2017

ICT

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn rhan o gonsortiwm rhyngwladol o ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop fydd yn derbyn €4.7m o gyllid i astudio trawsnewid digidol yn y sector cyhoeddus.

Bydd y prosiect, Trawsnewid yn Llywodraethau Agored, Arloesol a Chydweithredol (TROPICPO) sy'n rhan o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020, yn edrych sut mae llywodraethau'n newid i hyrwyddo cydweithio wrth gynllunio polisi a darparu gwasanaethau.

Gyda phwyslais arbennig ar dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), bydd yr ymchwilwyr yn cymharu fframweithiau llywodraethol cyfredol, ac agweddau biwrocratiaid, i ganfod y ffactorau sy'n hybu cydweithio yn ogystal â'r rhwystrau sy'n ei atal.

Mae'r Athro James Downe o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a'r Athro Kevin Holland o Ysgol Busnes Caerdydd yn cymryd rhan yn y prosiect ar ran Prifysgol Caerdydd. Byddant yn hawlio €412,500 o'r cyfanswm.

"Bydd TROPICO yn caniatáu i ni gymryd golwg fanylach ar y ffordd mae TGCh yn galluogi cydweithio ymhlith cyrff llywodraethol ac asesu effaith y cydweithio hwn ar y dinesydd."

Yr Athro James Downe Professor in Public Policy and Management, Director of Research, Wales Centre for Public Policy

Daw'r prosiect a thîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, rheolaeth gyhoeddus, gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg, y gyfraith a pheirianneg ddigidol at ei gilydd o 12 o brifysgolion mewn 10 gwlad Ewropeaidd. Bydd yn rhedeg tan fis Mai 2021 a chaiff ei gydlynu gan Brifysgol Bergen.

Y 12 partner yn y prosiect yw: Prifysgol Bergen (Norwy), Prifysgol Caerdydd (y DU), CNRS (Pacte) - Sciences Po Grenoble (Ffrainc), Erasmus Universiteit Rotterdam (yr Iseldiroedd), Ysgol Llywodraethiant Hertie (yr Almaen), Katholieke Universiteit Leuven (Gwlad Belg), Prifysgol Canolbarth Ewrop (Hwngari), Roskilde Universitet (Denmarc), Tallinna Tehnikaulikool (Estonia), Universidad de Zaragoza (Sbaen), Universität Potsdam (yr Almaen), ac Universiteit Antwerpen (Gwlad Belg).

Dechreuodd Horizon 2020 ar 1 Ionawr 2014 a bydd yn rhedeg am saith mlynedd. Gyda chyllideb o ychydig o dan €80 biliwn, dyma'r rhaglen cyllido ymchwil ac arloesi fwyaf erioed yn yr UE.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.