Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i lywio gwelliannau yn y sector gofal cymdeithasol

16 Tachwedd 2017

Social Care

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis yn bartner ymchwil mewn menter gwerth £4.85m er mwyn helpu i wella bywydau plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae’r Adran Addysg wedi enwi Canolfan Datblygu Ymchwil Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant (CASCADE) – sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – fel ei bartner ymchwil ar gyfer y Ganolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant.

Bydd y Ganolfan newydd yn datblygu sail dystiolaethol gref ar ymyriadau effeithiol a systemau ymarfer ym maes gofal cymdeithasol i blant, gan edrych ar gefnogaeth i blant o'r pwynt cyfeirio hyd at fabwysiadu, cymorth wrth adael gofal a help cynnar wedi'i dargedu, ymhlith meysydd eraill.

Bydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth y Brifysgol er mwyn gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), y Ganolfan Treialon Ymchwil, yr Uned Defnydd Systematig o Dystiolaeth Ymchwil a’r Ysgol Meddygaeth. Bydd Prifysgol Warwick yn darparu arbenigedd mewn gwerthusiad economaidd.

Yn ôl yr Athro Donald Forrester o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Ymchwil newydd y Ganolfan Beth sy’n Gweithio: "Pleser o’r mwyaf yw cael cymryd rhan yn y fenter bwysig hon..."

"Nod y Ganolfan Beth sy’n Gweithio yw darparu tystiolaeth ddefnyddiol o’r radd flaenaf ar gyfer gweithwyr ac arweinwyr ar draws Gofal Cymdeithasol i Blant, ac rydym yn edrych ymlaen at weithredu rhaglen uchelgeisiol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth amlwg i wasanaethau ar gyfer plant a’u teuluoedd."

Yr Athro Donald Forrester Director of CASCADE

Bydd y Ganolfan Beth sy’n Gweithio newydd yn galluogi gwyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i werthuso argaeledd ac ansawdd tystiolaeth sy’n sail i ymyriadau polisi cyhoeddus; cymharu effeithlonrwydd dulliau gweithredu newydd ac ymarfer arferol; bydd hefyd yn cynghori’r rheini sy’n comisiynu ac yn ymgymryd ag ymyriadau i sicrhau y gellir gwerthuso eu gwaith yn effeithiol.

Mae'n rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu arfer gwell ym maes gofal cymdeithasol i blant, gyda chefnogaeth £200 miliwn yn y Rhaglen Arloesedd.

Yn ôl y Gweinidog dros Blant a Theuluoedd, Robert Goodwill,: “Mae pob plentyn yn haeddu’r gefnogaeth a’r gofal gorau posibl. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi £200 miliwn yn y Rhaglen Arloesedd er mwyn helpu sefydliadau i yrru gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol i blant.

"Bydd gan ganolfan What Works rôl bwysig wrth ddatblygu tystiolaeth er mwyn gwella deilliannau i blant yn ogystal â darparu arloesedd cost-effeithiol. Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd wedi cael ei dewis ar gyfer y bartneriaeth ymchwil hon..."

"Edrychaf ymlaen at glywed rhagor am waith y ganolfan wrth wella deilliannau i blant."

Robert Goodwill Gweinidog dros Blant a Theuluoedd

Nod y Ganolfan – sydd wrth y camau cyntaf ar hyn o bryd – yw tyfu i fod yn sefydliad cwbl annibynnol erbyn haf 2020.

Mae’r Ganolfan Beth sy’n Gweithio bresennol yn cynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), y Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF); y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar; Canolfan Beth sy’n Gweithio er Gostwng Troseddu; a’r Ganolfan er Heneiddio’n Well.

Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda Nesta, y dyfarnwyd y cytundeb iddi i ddarparu canolfan Beth sy’n Gweithio fis diwethaf.