Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad iechyd dynion

8 Mai 2015

NCMH pop up banner with team stood infront, and branded waterbottles infront of them

Ymchwilwyr Caerdydd ac Abertawe'n ymuno â thîm y Gweilch ar gyfer diwrnod iechyd dynion

Bydd gwesteion arbennig o dîm rygbi'r Gweilch yn ymuno ag ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe ar gyfer digwyddiad iechyd dynion rhad ac am ddim yn Stadiwm Liberty Abertawe ym mis Mai.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn cynnal y digwyddiad It's a Man Thing ddydd Mawrth 5 Mai.

Yn ystod y diwrnod, bydd sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr y Gweilch ac arbenigwyr ym maes iechyd, yn ogystal â rhaglen o sgyrsiau gan y Ganolfan a gwesteion eraill, gan gynnwys Sefydliad Movember, State of Mind Rugby, Alcohol Concern Cymru a'r mudiad atal hunanladdiad The Campaign Against Living Miserably (CALM).

Bydd stondinau gwybodaeth ryngweithiol gan sefydliadau iechyd corfforol a meddyliol ASH Cymru ac Amser i Newid Cymru yn y digwyddiad hefyd, yn ogystal â stondin hen gemau fideo a chinio am ddim.

Ariennir NCMH gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol (NISCHR) Llywodraeth Cymru, ac mae gan y Ganolfan staff yn Ysgolion Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Bydd gweithwyr o'r ddau leoliad yn dod ynghyd i gynnal y digwyddiad unigryw hwn, sy'n agored i ddynion a menywod o bob oed.

Mae'r ganolfan ymchwil yn gweithio i feithrin gwell dealltwriaeth o achosion problemau iechyd meddwl fel anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, iselder, PTSD ac ADHD. Mae hefyd yn hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac yn mynd i'r afael â stigma.

Dywedodd yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr NCMH ac Athro ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae digwyddiadau arloesol o'r fath yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig ymhlith grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd. Mae hyn yn gwbl allweddol wrth ymgysylltu â'r cyhoedd gyda'r syniad o ofalu am eu hiechyd eu hunain. Mae hyn hefyd yn bwysig gyda phrosiectau ymchwil fel ein un ni, sy'n ceisio gwella iechyd pobl yng Nghymru yn y dyfodol."

Yn ôl arweinydd NCMH Abertawe a Phennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd: "Ein bwriad drwy'r digwyddiad hwn yw helpu i hybu gwell iechyd corfforol a meddyliol ymysg dynion, a gwneud hynny mewn ffordd ddifyr sy'n llawn hwyl."

"Mae gwaith ymchwil wedi dangos yn gyson bod iechyd meddwl a chorfforol yn mynd law yn llaw. Mae hefyd wedi dangos y gall dynion, yn enwedig dynion ifanc, fod yn amharod i ofyn am yr help mae arnynt ei angen."

"Drwy amlygu rhai o'r anawsterau posibl y gall dynion eu hwynebu, rydym yn gobeithio y gallwn eu hannog i gydnabod pan fydd arnynt angen help, a sylweddoli nad oes unrhyw gywilydd gofyn amdano."

Rhannu’r stori hon