Ewch i’r prif gynnwys

Targedu canser heb ddinistrio celloedd-T iach

14 Tachwedd 2017

Artist's impression of T-cells

Gallai dull unigryw o dargedu celloedd-T annormal sy’n achosi lymffomâu cell-T gynnig gobaith newydd i gleifion sy’n dioddef o’r teulu ymosodol ac anodd eu trin hwn o ganserau, yn ôl astudiaeth sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Darganfu’r tîm o ymchwilwyr, a oedd yn gweithio gyda’r cwmni biofferyllol Autolus Cyf, ddull o dargedu’r canser heb ddinistrio celloedd-T iachus sy’n hanfodol i’r system imiwnedd.

Mae lymffomâu yn ffurfio pan fo celloedd a elwir yn lymffocytau, sy’n ein diogelu rhag germau, yn dod yn ganseraidd. Mae dau fath gwahanol o lymffocytau i’w cael: Celloedd-B a Chelloedd-T. Mae datblygiadau diweddar, gan gynnwys therapïau imiwnedd, wedi sicrhau bod diagnosis o lymffoma cell-B, a fyddai wedi bod yn angheuol gynt, bellach yn gyflwr trinadwy. Ond erys angen dulliau therapiwtig newydd ar gyfer y lymffoma cell-T prinnach, ond mwy ymosodol, yn aml.

Mae canfod ffordd o gael gwared ar y celloedd-T annormal heb ddinistrio’r rhai iachus sy’n hanfodol at ddiogelu rhag heintiau wedi bod yn her allweddol wrth drin y canserau hyn

Mae celloedd-T yn adnabod ac yn dileu germau trwy ddefnyddio moleciwl ar eu harwyneb a elwir yn dderbynnydd cell-T. Caiff y derbynnydd hwn ei wneud trwy ddefnyddio un o ddau gopi dyblyg o’r genyn derbynnydd cell-T, a elwir C1 neu C2, ar hap. O ganlyniad, mae’r celloedd-T yr ydym yn eu defnyddio er mwyn atal firysau a germau eraill yn gymysgedd cyfartal, bron, o gelloedd sy’n defnyddio naill ai’r genyn C1 neu C2. Pan fo cell-T yn dod yn ganseraidd, deillia’r holl ganser o gell unigol fel bod y canser naill ai’n C1 i gyd neu C2 i gyd.

Mae’r tîm ymchwil wedi dyfeisio ffordd o ddileu celloedd-T yn seiliedig ar ba un a ydynt yn defnyddio’r genyn C1 neu C2. Mae'r tîm yn dangos bod targedu celloedd-T C1 yn gallu lladd canserau C1 wrth adael yr holl gelloedd-T C2 heb eu niweidio, fel y gallant ofalu am heintiau.

Dywedodd yr Athro Andrew Sewell o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Ni fyddem yn para wythnos heb y gwaith hanfodol y mae ein celloedd-T yn ei gyflawni trwy ein diogelu rhag heintiau. Gwelir yn eglur effeithiau dinistriol niferoedd isel dim ond un math o gell-T mewn HIV/AIDS.

"Mae lymffomâu cell-T yn arbennig o anodd i’w trin heb ddinistrio celloedd-T iach, sy’n hanfodol at y system imiwnedd. Mae’r dull newydd ac arloesol mae Autolus wedi ei ddatblygu yn galluogi potensial dileu’r holl gelloedd canser heb niweidio hanner ein celloedd-T...”

"Gan fod celloedd-T yn dewis defnyddio’r genynnau C1 neu C2 ar hap, gall hanner y celloedd-T sy’n weddill ddarparu imiwnedd i’r pathogenau rydym yn dod ar eu traws bob dydd."

Yr Athro Andrew Sewell Professor

Dywedodd Dr Georgios Trichas, yn nhîm Arloesedd Wellcome: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a allai arwain at therapïau newydd ar gyfer canserau celloedd-T. Mae anawsterau wrth geisio gwahaniaethu rhwng celloedd T arferol a rhai canseraidd wedi rhwystro ymdrechion blaenorol yn y maes. Yn bwysig, yn ogystal â gallu adnabod celloedd-T canseraidd, mae'r ymchwilwyr wedi dangos sut mae technolegau sydd eisoes yn bodoli sy'n ailgyfeirio'r system imiwnaidd yn gallu cael eu haddasu gan ddefnyddio'r darganfyddiad hwn, er mwyn gwneud iddynt ladd y celloedd hyn. Er bod yr astudiaeth hon yn addawol iawn, cafodd ei chynnig in vitro ac mewn llygod, felly bydd angen cynnal rhagor o ymchwil i wneud yn siŵr bod y dull hwn yn ddiogel ac yn effeithiol cyn y gellir ei brofi mewn clinig."

Mae llawysgrif lawn ‘‘Targeting T-cell receptor β-constant for immunotherapy of T-cell malignancies’ i’w chael yn Nature Medicine.

Rhannu’r stori hon

Our systems biology-based research informs the development of novel diagnostics, therapies and vaccines against some of the greatest public health threats of our time.