Bydd y cwmni opera o Gaerdydd, Opera’r Ddraig, dan arweiniad menywod, yn teithio ledled Cymru yr hydref hwn gan berfformio ‘Bhekizizwe’, y monodrama operatig.
Cynhaliodd yr Ysgol Cerddoriaeth weithdy rhad ac am ddim, "Cerddoriaeth i'r Llygaid", gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch byddardod, yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol.
Mae Rachel Walker Mason, un o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth ac enillydd dros 80 o wobrau cerddoriaeth arbennig, wedi’i gwneud yn aelod o’r Academi Recordio (GRAMMY).
Cynhaliodd Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd gyngerdd arbennig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan dalu teyrnged i weithiau cerddorol a ysgrifennwyd, cyfarwyddwyd, trefnwyd a pherfformiwyd gan fenywod, a darnau ble menywod sy’n cymryd y llwyfan fel prif gymeriadau.
Mae Dr Clair Rowden wedi’i phenodi i swydd Is-Lywydd y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol, y corff proffesiynol ar gyfer cerddolegwyr a cherddorion academaidd yn y DU.
Mae Carmen Abroad gan Dr Clair Rowden wedi ennill Gwobr Llyfr 2021 y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol (RMA) / Gwasg Prifysgol Caergrawnt am Gasgliad Golygedig Eithriadol
Mae Darcy Beck, myfyriwr israddedig ail flwyddyn yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn paratoi i berfformio gyda Cherddorfa Symffoni Swydd Gaerloyw ar ôl ennill Gwobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn Swydd Gaerloyw 2020.
Mae'r darllenydd Dr David Beard yn yr Ysgol Cerddoriaeth wedi sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gefnogi ei waith ar fonograff, The Music of Judith Weir
Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.