Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn dechrau ar gyfer 2021

26 Chwefror 2021

Ers iddo ddechrau yn 2006, mae ein Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG gyda Hugh James wedi addasu ac esblygu. Y mis hwn, cychwynnodd grŵp newydd o fyfyrwyr weithio ar yr iteriad diweddaraf o'r cynllun. Ond y tro hwn, yn ystod pandemig.

Her Fawr: sut y newidiodd yr Uned Pro Bono yn ystod y pandemig

16 Chwefror 2021

Pan gydiodd Coronafeirws yn y DU, ymatebodd ein Huned Pro Bono yn gyflym, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu parhau i ennill profiad mewn amgylchedd diogel i bawb.

Rhaglen y Gyfraith a Ffrangeg yn cael ei chydnabod yng ngwobr Ffrengig Prydeinig

26 Ionawr 2021

Mae Cymdeithas Cyfreithwyr Ffrengig Prydeinig (Franco British Lawyer’s Society: FBLS) wedi dyfarnu Gwobr Academaidd y DU eleni i raglen Cyfraith a Ffrangeg (LLB) Caerdydd.

Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn penodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd

8 Rhagfyr 2020

Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gyhoeddi penodiad y Parchedig Stephen Coleman yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan y Gyfraith a Chrefydd.

Yr Athro Norman Does gyda Deon Cadeirlan Tyddewi, y Gwir Barchedig Dr Sarah Rowland Jones.

Athro Cyfraith Eglwysig yn siarad mewn digwyddiad Cadeiriol blynyddol

30 Hydref 2020

Y mis Medi hwn, gwahoddwyd yr Athro Norman Doe i Dyddewi i gyflwyno Darlith Flynyddol Ffrindiau Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Teenage boy using laptop and doing homework - stock photo

Myfyrwyr Safon Uwch yn cael cyfle i roi cynnig ar fywyd prifysgol

26 Hydref 2020

Cynllun newydd ar agor nawr ar gyfer ceisiadau

Person in handcuffs

Ymchwil yn dangos nad yw oedolion agored i niwed yn nalfa'r heddlu yn cael cefnogaeth hanfodol

13 Hydref 2020

'Oedolyn priodol' yn bresennol ar gyfer nifer pitw o achosion yn unig, yn ôl adroddiad

Person working at home stock image

Cymru sydd â'r gyfran isaf o swyddi yn y DG y gellid eu gwneud gartref, yn ôl astudiaeth

5 Awst 2020

Pandemig yn gwaethygu anghydraddoldebau economaidd, meddai ymchwilwyr

Professor Ambreena Manji

Academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

27 Gorffennaf 2020

Helpu i gynnal safle blaenllaw’r DU ar lefel fyd-eang mewn ymchwil ac arloesedd

Academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar restr fer ar gyfer gwobr ysgolheictod cyfreithiol

27 Gorffennaf 2020

Mae llyfr a ysgrifennwyd gan ddarlithydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar restr fer Gwobr Peter Birks eleni ar gyfer Ysgolheictod Cyfreithiol Rhagorol.

Dathlu gwaith Athro Cysylltiadau Rhyngwladol mewn cyfnodolyn rhyngwladol

23 Gorffennaf 2020

Yn rhifolyn Gorffennaf cyfnodolyn o fri ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, mae adran arbennig wedi’i neilltuo am waith arloesol Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Woman sorting coins in her purse stock image

Yn ôl adroddiad, mae effaith economaidd Covid-19 yn gwaethygu'r anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru

25 Mehefin 2020

Mae grwpiau penodol o weithwyr yn cael eu heffeithio i raddau anghymesur gan y pandemig

Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n enwi academyddion y Gyfraith yn Gymrodyr

26 Mai 2020

Mae dau athro Cyfraith o Gaerdydd wedi’u hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, uchel ei bri.

Solar panels in field

Arbenigwyr yn cyhoeddi argymhellion ar gyfer adferiad economaidd gwyrdd rhag COVID-19

21 Mai 2020

Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar frig rhestr o'r polisïau a argymhellir

Myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Meddwl Cyfreithiol

29 Ebrill 2020

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi gwneud yn well na chystadleuwyr o bob rhan o'r wlad wrth gyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth gyfreithiol.

Darlithydd Cysylltiadau Rhyngwladol yn arwain cyflwyniad yn Swyddfa Cyffuriau a Throsedd y CU

14 Ebrill 2020

Yn ddiweddar gwahoddodd Swyddfa Cyffuriau a Throsedd y CU ddarlithydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i gyflwyno ei ymchwil mewn digwyddiad yn Fiena.

Money and graph

Cyllid i Gymru yn llai na'r hyn a allai fod ei angen i ymateb i’r coronafeirws, yn ôl academyddion

9 Ebrill 2020

Adroddiad yn honni bod angen diwygio pwerau benthyg Llywodraeth Cymru dros dro

Cardiff Law Society represented by Tom Eastment (Careers Liaison), Annalie Greasby (Secretary), Bella Gropper (President) and Joe Del Principe (Treasurer)

Cymdeithas y Gyfraith yn ennill gwobr ymgysylltu mewn seremoni wobrwyo flynyddol

26 Mawrth 2020

Bu Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn dathlu yng Ngwobrau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net y mis hwn lle enillon nhw wobr 'Ymgysylltu Gorau'.

Athro'r Gyfraith yn siarad yn nigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi’r Senedd

20 Mawrth 2020

Fis Mawrth hwn, gwahoddwyd yr Athro Norman Doe, i siarad mewn digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.