Ewch i’r prif gynnwys

2012

Defnyddiau newydd ar gyfer isgynhyrchion diesel

24 Ionawr 2012

Gallai proses gatalytig newydd gan Sefydliad Catalysis Caerdydd ryddhau ystod o isgynhyrchion defnyddiol newydd yn sgil cynhyrchu tanwydd diesel.

Trechu dementia

24 Ionawr 2012

Mae un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw’r Brifysgol yn cefnogi galwad elusen Clefyd Alzheimer i gynyddu nifer y gwyddonwyr sy’n gweithio ar ddeall yr hyn sy’n achosi dementia.

Sŵn Hanes

24 Ionawr 2012

Yn sgil ariannu newydd mae casgliadau sylweddol o gerddoriaeth unigryw mewn llawysgrifau ac mewn print o’r 18g a’r 19g yn mynd i fod ar gael i gynulleidfa ysgolheigaidd ehangach.

Ymdeimlad o ‘Seisnigrwydd’ yn gryfach na ‘Phrydeindod’ yn Lloegr

23 Ionawr 2012

Yn ôl adroddiad a gyd-ysgrifennwyd gan y Brifysgol, mae’r ymdeimlad o ‘Seisnigrwydd’ ymysg pleidleiswyr sy’n byw yn Lloegr wedi dod yn fwyfwy amlwg ac maent yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar eu hunaniaeth Seisnig yn hytrach na’u hunaniaeth Brydeinig.

Lansiad llwyddiannus i sioe bywyd gwyllt

23 Ionawr 2012

Roedd seren y West End, Connie Fisher, ymhlith dros 130 o westeion yn sgriniad y Brifysgol o gyfres newydd o Rhys to the Rescue.

Yr Athro Jeremy Alden (1943 - 2012)

23 Ionawr 2012

Mae teyrngedau wedi cael eu talu i’r Athro Jeremy Alden, cyn Ddirprwy Is-ganghellor Dysgu ac Addysgu, a Phennaeth yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, sydd wedi marw yn 68 mlwydd oed.

‘Must have’ tickets sell out in record time

23 Ionawr 2012

The ‘must have’ ticket of 2012 has sold out in record time today following the announcement of speakers from TEDxCardiff.

Equality

Cydraddoldeb yn y gweithle

20 Ionawr 2012

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei rhestru yn safle 49 ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2012 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Gwneud y dewis cywir o ran gyrfa

19 Ionawr 2012

Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd yng Nghymru a Lloegr yn dechrau cwrs peilot yng Nghaerdydd i helpu i wella cyngor ar gyfer pobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Cynghori ar bolisi Cymru

19 Ionawr 2012

Mae’r Athro Bob Lee o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd, wedi cael ei benodi’n Ymgynghorydd Arbennig i Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.