Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r holl fyfyrwyr newydd i’r campws ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2023/24.

Ymsefydlu israddedig ac ôl-raddedig

Cyn i chi gyrraedd Caerdydd, bydd angen i chi ymrestru ar-lein.

Rydym yn creu rhaglen o ddigwyddiadau ymsefydlu wyneb yn wyneb ac ar-lein a fydd yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Medi 2023 ar gyfer israddedigion a’r mwyafrif o fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae'r amserlen ar gyfer y digwyddiadau hyn yn cael ei chwblhau a bydd yn cael ei hebostio atoch erbyn canol mis Medi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfrif ebost prifysgol. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am eich ysgol a'r brifysgol, a byddwch yn cwrdd â staff a'ch cyd-fyfyrwyr.