Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg

Diweddarwyd: 18/10/2023 15:33

Gwybodaeth am ymsefydlu i israddedigion ac ôl-raddedigion yn yr Ysgol Peirianneg

Croeso i bob myfyriwr Peirianneg newydd yn 2023/24

Cynhelir yr Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 25 Medi, cyn i’r addysgu ddechrau ddydd Llun, 2 Hydref yr wythnos ganlynol.

Fe’ch cynghorir yn gryf i fynd i’r digwyddiadau hyn, yn enwedig os nad ydych wedi mynd i'r brifysgol o'r blaen. Cewch gyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill ar eich cwrs, cwrdd â rhai aelodau o’r staff academaidd, gofyn cwestiynau i fyfyrwyr presennol a dechrau dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yr adeiladau.

Bydd holl ddigwyddiadau ymsefydlu'r Ysgol ar gyfer israddedigion a myfyrwyr MSc newydd yn cael eu cynnal yn Adeiladau'r Frenhines, ychydig oddi ar Heol Casnewydd (y côd post yw CF24 3AA).

Bydd amserlenni Wythnos Groeso manwl yn cael eu e-bostio atoch yn nes at yr amser. Byddant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn Llawlyfr y Myfyrwyr ar Dysgu Canolog – ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Mae amlinelliad o'r rhaglen ymsefydlu ar gyfer pob grŵp o fyfyrwyr i'w gweld isod.

Rhaglen

Dyddiad ac amser

Peirianneg Integredig a Pheirianneg Drydanol ac Electronig – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Drydanol ac Electronig)

Dydd Llun, 25 Medi
09:00 – 13:30

Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen

Dydd Llun, 25 Medi
11:00 – 15:00

Peirianneg Bensaernïol, Sifil, Sifil ac Amgylcheddol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Bensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol)

Dydd Mawrth, 26 Medi
09:30 – 14:00

Peirianneg Fecanyddol a Meddygol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol), Grŵp 1

Dydd Mercher, 27 Medi 09:00 – 11:00

 

Dydd Iau, 28 Medi
11:00 – 16:00
(yn cynnwys hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gorfodol)

Peirianneg Fecanyddol a Meddygol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol), Grŵp 2

Dydd Mercher, 27 Medi 10:30 – 12:30

 

Dydd Iau, 28 Medi 11:00 – 16:00
(yn cynnwys hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gorfodol)

Erasmus/Rhaglen gyfnewid/Myfyrwyr sy'n dod o dramor i astudio

Dydd Gwener, 29 Medi
11:00 – 13:00 (ymrestru’n unig)

Rhaglen

Dyddiad ac amser

MSc Peirianneg Sifil/Strwythurol/Sifil a Dŵr/Sifil a Geo-amgylcheddol, Modelu Gwybodaeth am Adeiladau a Seilwaith at Ddibenion Peirianneg Glyfar

Dydd Mawrth, 26 Medi
13:00 – 15:00

MSc Uwch-Beirianneg Fecanyddol, Arloesi a Rheoli ym Maes Peirianneg Gweithgynhyrchu, Ynni Cynaliadwy a'r Amgylchedd

Dydd Mercher, 27 Medi
13:00 – 15:00

MSc Electroneg/Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon, Systemau Ynni Trydanol, Peirianneg Sero Net

Dydd Gwener, 29 Medi
12:30 – 14:30