Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg

Diweddarwyd ddiwethaf: 19/07/2022 11:08

Os ydych chi’n fyfyriwr newydd neu’n dychwelyd i’ch astudiaethau yn yr Ysgol Cemeg, cewch yr holl wybodaeth bydd ei hangen arnoch chi i ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Bydd eich sesiwn ymsefydlu yn cwmpasu:

  • pa grŵp tiwtorial byddwch chi ynddo a phwy yw eich tiwtor personol
  • eich amserlen a llawlyfrau eich rhaglen
  • y cyfle i drafod modiwlau dewisol gyda staff a sut i ddewis y rhain ar-lein (peidiwch â dewis eich modiwlau dewisol cyn y digwyddiad ymsefydlu)
  • cyrchu eich cofnod myfyriwr ar-lein. Byddwn ni’n dangos i chi sut i gael gafael ar adnoddau a gwybodaeth bwysig arall ar y fewnrwyd yn ystod y sesiwn hon.
  • bydd manylion eraill megis offer diogelwch yn y labordy a gwerslyfrau a awgrymir yn cael eu trafod yn ystod wythnos 1 yn y modiwl Cyflwyniad i Gemeg.

Israddedigion

Ymsefydlu i fyfyrwyr newydd

Cynhelir y sesiynau sefydlu cychwynnol ar gyfer blwyddyn 1 ddydd Mawrth 26 Medi rhwng 14.00 a 17.00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fawr yn y Prif Adeilad. Bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i'w sesiynau ymsefydlu drwy ebost Prifysgol Caerdydd maes o law.

Pob carfan blwyddyn

Mae gwybodaeth ymsefydlu i bob carfan fel a ganlyn:

Bydd sesiynau ymsefydlu Blwyddyn 1 yn digwydd:

Ddydd Mawrth 26 Medi 2023 14:00 - 17:00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fawr, y Prif Adeilad.

Ddydd Mercher 27 Medi 2023 09.00 - 11.00 yn Narlithfa Fawr Shandon, y Prif Adeilad.

Ddydd Iau 27 Medi 2023 11.00 - 12:00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fach, y Prif Adeilad. Myfyrwyr Cemeg Feddyginiaethol Blwyddyn 1 yn unig.

Bydd y sesiynau ymsefydlu yn digwydd:

Ddydd Mercher 27 Medi 2023 11.00 - 12.00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fawr, y Prif Adeilad.

Ddydd Iau 27 Medi 2023 15.10 - 16.00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fach, y Prif Adeilad. Blwyddyn 2 - lleoliadau yn unig.

Bydd y sesiwn ymsefydlu yn digwydd:

Ddydd Mercher 27 Medi 2023 12.00 - 13.00 yn y Ddarlithfa Cemeg Fawr, y Prif Adeilad.

Bydd y sesiwn ymsefydlu yn digwydd:

Ddydd Iau 28 Medi 2023 11.00 - 12.30 yn y Ddarlithfa Cemeg Fach, y Prif Adeilad.

Ôl-raddedigion

Bydd y sesiwn ymsefydlu i ôl-raddedigion yn digwydd ddydd Iau 28 Medi 2023 rhwng 14:00 a 15:30, yn y Ddarlithfa Cemeg Fach, y Prif Adeilad.

Bydd Dr Tatchell yn gwahodd y myfyrwyr i fod yn bresennol ar gyfer pob cwrs MSc Cemeg Uwch a Chemeg Feddyginiaethol. Bydd arweinwyr y rhaglen yno i drafod manylion y cwrs.