Ewch i’r prif gynnwys

Ap Myfyrwyr

Diweddarwyd: 10/08/2023 15:54

Mae ein Ap Myfyrwyr yn eich helpu i gynllunio'ch diwrnod, gwirio ble mae angen i chi fod, a chael mynediad at gymorth a chefnogaeth.

Gallwch ei lawrlwytho o’r App Store ® (iOS) neu siopau Google Play™:

Get it in the App Store Get it on Google Play

Nodweddion

Mae’r ap yn cynnwys:

  • calendr gyda'ch amserlen ynghyd â chyfarwyddiadau ar draws y campws, unrhyw ddolenni sydd eu hangen arnoch chi – a gall anfon nodiadau atgoffa atoch chi er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd mewn pryd.
  • hysbysiadau sydyn sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Os bydd argyfwng, dyma'r ffordd gyflymaf inni gysylltu â chi hefyd
  • ffordd hawdd o gael cymorth a chefnogaeth – a chadarnhau eich apwyntiadau gyda thimau Bywyd Myfyrwyr
  • eich holl ddata myfyrwyr mewn un lle, gan gynnwys benthyciadau llyfrgell a chredyd print
  • fersiwn digidol o'ch manylion adnabod, y gallwch ei ddefnyddio os ydych yn colli eich cerdyn adnabod myfyriwr
  • darllenydd côd QR fel y gallwch chi gofrestru eich presenoldeb ar gyfer darlithoedd a seminarau (nid yw hyn ar gael ym mhob ysgol).