Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltu â'r wifi

Diweddarwyd: 28/09/2023 08:36

Mae ein rhwydwaith diwifr (eduroam) ar gael yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ar ôl ymrestru.

Mae'r rhwydwaith ddiwifr ar gael yn holl adeiladau'r brifysgol, Preswylfeydd y brifysgol a’r rhan fwyaf o safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Darllenwch ein rheolau TG, sy’n berthnasol i bob myfyriwr.

Mae'r dystysgrif a ddefnyddir i gysylltu eich dyfais â rhwydwaith diogel y brifysgol (eduroam) yn dod i ben yn flynyddol.  Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ail-gofrestru pob un o'ch dyfeisiau bob blwyddyn.  Byddwch yn derbyn ebyst atgoffa sy'n dechrau 4 wythnos cyn i bob cofrestriad ddod i ben, gan eich annog i ail-gofrestru eich dyfais.

Paratoi eich dyfais cyn i chi gyrraedd

Gallwch wneud i ddyfeisiau iOS, Mac OS a Windows gysylltu ag eduroam, sy’n golygu y bydd y ddyfais yn cysylltu ag eduroam ar unwaith pan fyddwch yn cyrraedd y campws. Gallwch gysylltu dyfeisiau Android a Chromebook ar ôl i chi gyrraedd y campws.

Efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gallu gweithio ar rwydwaith eduroam. Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu chwarae gemau ar-lein yn y modd arferol gyda chonsolau gemau cyfrifiadurol, gan fod angen iddynt fod yn NAT math 3 (Caeth).

Rydym yn eich argymell i ddiweddaru system weithredu eich dyfais drwy osod yr holl ddiweddariadau a’r darnau, yn ogystal â’r gyrwyr rhwydwaith di-wifr diweddaraf ar eich dyfais ymlaen llaw.

Cysylltu â'r rhwydwaith di-wifr

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i wneud i’ch dyfais gysylltu ag eduroam.

Cysylltu eich dyfais iOS ag eduroam

Fideo

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

Diffoddwch unrhyw VPN presennol ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr fod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'i osod i GMT y DU.

Os nad ydych ar y campws, cysylltwch â'ch rhwydwaith cartref eich hun ac ewch yn syth i gam 2, gan ddefnyddio'ch rhwydwaith eich hun yn lle CU-Wireless.

Os ydych chi'n ail-fyrddio dyfeisiau ar ôl cael ebost, gallwch fynd yn syth i gam 2, gan ddefnyddio eduroam yn lle CU-Wireless.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio dongl allanol i gysylltu eich dyfais drwy gebl ether-rwyd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu, ei osod a'i ffurfweddu cyn cwblhau'r broses isod.

  1. Os ydych ar y campws, cysylltwch â'r rhwydwaith CU-Wireless i ddechrau'r broses (bydd eich dyfais yn cysylltu â CU-Wireless fel Rhwydwaith Heb ei Ddiogelu).
  2. Cyfeiriwch Safari eich hun i https://onboard.cardiff.ac.uk oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
  3. Anwybyddwch unrhyw rybuddion 'This connection isn't private' ac ewch i'r Wefan.
  4. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich Cyfeiriad ebost prifysgol llawn a'ch Cyfrinair.
  5. Sicrhau bod y system Weithredu gywir wedi'i chanfod (iOS ar gyfer iPhones, neu iPadOS ar gyfer iPads) yna cliciwch ‘Log in’.
  6. Dewiswch ‘Install Profile’ i ffurfweddu'ch dyfais.
  7. Byddwch yn cael naidlen, yn gofyn i chi lawrlwytho'r Proffil ffurfweddu eduroam y brifysgol – dewiswch ‘Allow’.
  8. Bryd hynny, bydd proffil eduroam yn cael ei lawrlwytho, ond nawr mae angen i chi ei osod eich hun.  Cofiwch fod yn rhaid i chi osod y proffil newydd o fewn 8 munud, fel arall mae'n rhaid i chi ddechrau'r broses eto..

iOS Fersiwn 15.0 ymlaen

  1. Agorwch yr eicon ‘Settings’ ar sgrîn yr hafan.
  2. Ar ochr chwith y sgrin, dewiswch 'Profile Downloaded'.
  3. Dewiswch ‘Install’ ar sgrîn proffil gosod eduroam
  4. Rhowch gyfrinair eich ffon os gofynnir i chi wneud hynny.
  5. Dewiswch ‘Install’ o'r negeseuon naid canlynol
  6. Ar ôl i'r proffil gael ei osod, dewiswch ‘Done’
  7. Sgroliwch i lawr hyd at “When you are on campus”.

Fersiynau iOS sy’n hŷn

  1. Agorwch yr eicon ‘Settings’ o'r sgrîn gartref, cliciwch ar ‘General’ ac yna ‘Profiles’.
  2. Dewiswch ‘Cardiff University Device Enrolment’ o dan ‘Downloaded Profile’
  3. Dewiswch ‘Install’ ar sgrîn proffil gosod eduroam
  4. Rhowch gyfrinair eich ffon os gofynnir i chi wneud hynny.
  5. Dewiswch ‘Install’ o'r negeseuon naid canlynol
  6. Ar ôl i'r proffil gael ei osod, dewiswch ‘Done’
  7. Parhewch isod pan fyddwch ar y campws.

Pan fyddwch ar y campws

  1. Pan fyddwch ar y safle, bydd angen i chi gysylltu â rhwydwaith di-wifr Eduroam eich hun, trwy ei ddewis o’r rhestr o rwydweithiau yn ‘Settings’, ac yna ‘Wi-Fi’.
  2. Argymhellir eich bod hefyd yn anghofio (‘Forget’) rhwydwaith CU-Wireless.

    Os ydych chi'n dal i gael trafferth wrth ffurfweddu'ch dyfais

  1. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar ailgychwyn eich dyfais.
  2. Rhowch gynnig ar anghofio'r rhwydwaith 'eduroam':
    1. Agorwch Settings > Wifi > y botwm 'i' wrth ymyl eduroam
    2. Cliciwch ar Forget this network.

    Rhowch gynnig ar ddileu proffil ‘eduroam’ o’ch dyfais:

    iOS Fersiwn 15.0 ymlaen

  1. Dilëwch y proffil 'eduroam' o iPhones ac iPads sy'n rhedeg iOS
  2. Ewch i Settings -> General -> VPN & Device Management -> Configuration Profile – dewiswch y dystysgrif Cardiff a chliciwch ‘remove profile’

    Fersiynau iOS sy’n hŷn

  1. Dilëwch y proffil 'eduroam' o iPhones ac iPads sy'n rhedeg iOS:
  2. Ewch i Settings > General > Proffile - yna dilëwch 'eduroam' a/neu 'Cardiff University Device Enrolment' o'ch dyfais.

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

Diffoddwch unrhyw VPN presennol ar eich dyfais.

Bydd angen cysylltiad rhwydwaith gweithredol arnoch i gwblhau'r broses osod:

  • Os nad ydych chi ar y campws, cysylltwch â'ch rhwydwaith lleol eich hun i ddechrau'r broses.
  • Os ydych ar y campws, cysylltwch â'r rhwydwaith CU-Wireless i ddechrau'r broses.
  • *Os ydych chi'n bwriadu defnyddio dongl allanol i gysylltu eich dyfais drwy gebl ether-rwyd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu, ei osod a'i ffurfweddu cyn cwblhau'r broses isod.
  1. Cysylltwch â'r rhwydwaith CU-Wireless i ddechrau'r broses.
  2. Ar ôl cysylltu, agorwch borwr gwe Safari.
  3. Cyfeiriwch Safari eich hun i https://onboard.cardiff.ac.uk oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
  4. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich Cyfeiriad ebost prifysgol llawn a'ch Cyfrinair.
  5. Gwnewch yn siŵr fod y system weithredu gywir wedi'i chanfod (macOS) yna cliciwch Log in.
  6. Dewiswch Install Profile i ffurfweddu'ch dyfais.

(Mae cyfarwyddiadau'n parhau isod yn dibynnu ar eich fersiwn OS)

MacOS Big Sur (v11 ymlaen)

  1. Dewiswch ‘Allow’ i ganiatáu llwytho i lawr ar 'https://onboard.cardiff.ac.uk'. Ar hyn o bryd, mae'r proffil newydd wedi llwytho i lawr ar eich dyfais; fodd bynnag, mae angen ei osod. Dewiswch ‘System Preferences’ a ‘Profiles’, dewiswch ‘Install’ ar gyfer ‘Cardiff University Device Enrolment’.
  2. Dewiswch ‘Install' yn y naidlen.
  3. Rhowch gôd cyfrin/TouchID eich dyfais os gofynnir i chi wneud hynny.
  4. Unwaith y bydd y proffil wedi'i osod, defnyddiwch eicon y Maes Awyr yn y bar dewislen uchaf i gysylltu ag eduroam (Ar y campws yn unig).
  5. Argymhellir eich bod yn dileu'r rhwydwaith 'CU-Wireless', ac yn dewis eduroam fel y prif rhwydwaith trwy agor ‘system preferences’, dewis ‘Network’, ac yna ‘Advanced’. Yna dewiswch rwydwaith CU-Wireless o'r rhestr a chliciwch ar yr eicon "-" i dynnu rhwydwaith CU-Wireless.

Fersiynau hŷn o OSX

  1. Dewiswch Install yn y naidlen.
  2. Dewiswch Continue ac Install pan fydd yr awgrymiadau nesaf yn ymddangos.
  3. Rhowch gyfrinair eich dyfeisiau os gofynnir i chi wneud hynny.
  4. Ar ôl i'r broses osod ddod i ben, dylech weld neges Cofrestru Dyfais Prifysgol Caerdydd Enrolment  Verified.
  5. Defnyddiwch yr eicon Porth Awyr ar far y ddewislen uchaf i gysylltu ag eduroam
  6. Argymhellir eich bod yn dileu'r rhwydwaith CU-Wireless, ac yn dewis eduroam fel y prif rhwydwaith trwy agor system preferences, dewis network, ac yna advanced. Yna dewiswch rwydwaith CU-Wireless o'r rhestr a chlicio ar yr eicon “-“.

Os ydych chi'n cael trafferth wrth ffurfweddu'ch dyfais

  1. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar ailgychwyn eich dyfais.
  2. Rhowch gynnig ar anghofio'r rhwydwaith eduroam:
    1. Agorwch Settings > Wifi > y botwm 'i' wrth ymyl eduroam
    2. Cliciwch ar Forget this network
  3. Rhowch gynnig ar ddileu proffil eduroam o’ch dyfais:
    1. Dilëwch y proffil eduroam o fwrdd gwaith cyfrifiaduron a gliniaduron Apple Mac: Dewiswch System Preferences > Profiles  – cliciwch y botwm '-' i gael gwared ar y proffil.

Fideo

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

  • Diffoddwch unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais gan sicrhau bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
  • Sylwch nad yw system weithredu Huawei Harmony yn cael ei chefnogi ar hyn o bryd.
  • Mae cofrestru dyfeisiau Android o bell yn gweithio, fodd bynnag, efallai y cewch neges gwall yn ClearPass Quick Connect pan fydd yn ceisio cysylltu ag eduroam i brofi'r cysylltiad ar ôl cael ei ffurfweddu. Anwybyddu unrhyw negeseuon yn ymwneud â hyn; bydd y ddyfais yn cysylltu ag eduroam pan fyddwch o fewn ystod signal diwifr eduroam.
  • Os ydych chi'n ail-fyrddio dyfeisiau ar ôl cael ebost, gallwch fynd yn syth i gam 8, gan ddefnyddio eduroam yn lle CU-Wireless.
  1. Cyn i chi ddechrau'r broses hon, gwnewch yn siŵr fod gennych gyfrif 'Google Play' wedi'i osod.
  2. Dylech Forget y proffiliau eduroam a CU-Wireless di-wifr cyfredol o restr y rhwydweithiau os ydynt ar gael. Cewch hyd i’r rhain o dan Settings a WiFi.
  3. Ewch ati i ddadosod y rhaglenni canlynol o’ch dyfais os ydynt yn bodoli - “QuickConnect”, “eduroamCAT”, ”Ruckus Cloudpath, ac Arris Company”.
  4. Ailddechreuwch eich dyfais.
  5. Ewch i Settings a dewis Network and Internet.
  6. Dewiswch CU-Wireless o'r rhestr o rwydweithiau sydd ar gael.
  7. Bydd eich dyfais yn cysylltu â CU-Wireless, gan ddangos Connected.
  8. Cyfeiriwch Chrome eich hun i https://onboard.cardiff.ac.uk oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
  9. Os cyflwynir neges ‘Your connection is not private’, dewiswch Advanced a Proceed.
  10. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich Cyfeiriad ebost prifysgol llawn a'ch Cyfrinair.
  11. Gwnewch yn siŵr fod y system weithredu gywir wedi'i chanfod (Android) yna cliciwch ar Log in.
  12. Dewiswch Install QuickConnect ar y sgrin nesaf i ffurfweddu'ch dyfais.
  13. Byddwch yn mynd at ‘Google Play Store’ i osod ClearPass QuickConnect.
  14. Ar ôl ei osod, dewiswch Open i redeg y rhaglen ClearPass QuickConnect.
  15. Dewiswch Continue.
  16. Gadewch (‘Allow’) i 'ClearPass QuickConnect' gael mynediad at rannau o'ch dyfais, gan gynnwys ‘Device Location’, ‘Manage Phone calls’ a ‘Access photos, media and files’. Ni fydd y broses yn gweithio os gwrthodir unrhyw un o'r rhain.
  17. Dewiswch Continue.
  18. Dewiswch ‘OK’
  19. Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi eto i'r wefan lwytho.
  20. Os caiff ei gyflwyno - dewiswch yr opsiwn "I have already installed QuickConnect"
  21. Ar yr awgrym nesaf, dewiswch Install Network Profile. Ar ôl ei lawrlwytho Open y ffeil quick1x.networkconfig.
  22. Efallai y bydd gofyn i chi greu sgrÎn gloi ddiogel, os gofynnir i chi ddewis 'Set lock' a dewis o'r opsiynau a gyflwynir.
  23. Yna bydd ClearPass QuickConnect yn gosod y tystysgrifau gofynnol.
  24. Os gwelwch wall “gwall ffurfweddu dyfais” - Trowch eich dyfais i ffwrdd ac ymlaen eto er mwyn i'r gosodiadau fod yn berthnasol.
  25. 24.Os nad ydych oddi ar y campws, bydd y broses hon yn methu ar hyn o bryd oherwydd ni all ClearPass QuickConnect 'weld' SSID eduroam, fodd bynnag pan fyddwch yn cyrraedd y campws bydd yn cysylltu'n awtomatig.
  26. Dewiswch Ok. Byddwch nawr wedi eich cysylltu ag eduroam pan fyddwch chi ar y campws.
  27. Nodi: os yw'n bresennol, sicrhewch fod 'Dileu caniatâd os nad yw'r ap yn cael ei ddefnyddio'.

Fideo

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

  • Diffoddwch unrhyw VPN presennol ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr fod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'i osod i Amser y DU gan sicrhau bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU. Mae’n rhaid diffodd meddalwedd atal hysbysebion dros dro.
  • Os ydych chi'n bwriadu defnyddio dongl allanol i gysylltu eich dyfais drwy gebl ether-rwyd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu, ei osod a'i ffurfweddu cyn cwblhau'r broses isod.
  • Os ydych chi'n ail-fyrddio dyfeisiau ar ôl cael ebost, gallwch fynd yn syth i gam 2, gan ddefnyddio eduroam yn lle CU-Wireless.

Bydd angen cysylltiad rhwydwaith gweithredol arnoch i gwblhau'r broses osod:

  1. Agorwch borwr gwe a chyfeirio eich porwr Chrome eich hun i https://onboard.cardiff.ac.uk oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
  2. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich Cyfeiriad ebost prifysgol llawn a'ch Cyfrinair.
  3. Gwiriwch fod y system Geithredu gywir wedi'i dewis (Windows) o'r gwymplen, cyn dewis Mewngofnodi ‘Log In’.
  4. Gwiriwch fod y system Geithredu gywir wedi'i dewis (Windows) o'r gwymplen, cyn dewis Log in.
  5. Ar y dudalen nesaf, cliciwch Start QuickConnect i lawrlwytho'r rhaglen QuickConnect.
  6. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddewis Keep neu Save pan ofynnir i chi lawrlwytho'r rhaglen.
  7. Ar ôl i'r rhaglen lawrlwytho, cliciwch ar ArubaQuickConnect.exe i redeg y rhaglen.
  8. Dewiswch Yes os bydd y neges Do you want to allow this app to make changes to your device? yn ymddangos.
  9. Bydd hyn yn llwytho Onboard Wizard Prifysgol Caerdydd.
  10. Ar ôl i chi ddewis Next, bydd y rhaglen yn dechrau’r broses i osod y Tystysgrifau angenrheidiol.
  11. Pan fydd naidlen Rhybudd Diogelwch yn ymddangos, dewiswch Yes i osod tystysgrif WEB-CA-Prifysgol-Caerdydd. Efallai y bydd yn ymddangos sawl gwaith, dewiswch Yes ar gyfer pob un. Efallai y gofynnir i chi roi 'administrator password' eich dyfeisiau ar y pwynt hwn.
  12. Ar ôl cwblhau'r broses, dewiswch Connect i gysylltu â rhwydwaith diwifr eduroam.
  13. Ar y dudalen Connection Summary, dewiswch Close.
  14. Byddwch nawr wedi eich cysylltu ag eduroam pan fyddwch chi ar y campws.

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

  • Diffoddwch unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais gan sicrhau bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU. Mae angen diffodd meddalwedd atal hysbysebion dros dro.
  • Os ydych chi'n ail-fyrddio dyfeisiau ar ôl cael ebost, gallwch fynd yn syth i gam 2, gan ddefnyddio eduroam yn lle CU-Wireless.
  • Os ydych chi'n bwriadu defnyddio dongl allanol i gysylltu eich dyfais drwy gebl ether-rwyd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu, ei osod a'i ffurfweddu cyn cwblhau'r broses isod.

Bydd angen cysylltiad rhwydwaith gweithredol arnoch i gwblhau'r broses osod:

  1. Cysylltwch â rhwydwaith di-wifr Prifysgol Caerdydd.
  2. Agorwch borwr gwe, ac ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk os na fydd hyn yn digwydd yn awtomatig.
  3. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd.
  4. Sicrhewch fod y system weithredu gywir wedi'i dewis (Windows) o'r gwymplen cyn clicio Log In.
  5. Ar y dudalen nesaf, cliciwch Start QuickConnect i lawrlwytho QuickConnect.
  6. Efallai y bydd angen i chi glicio Keep neu Save wrth geisio lawrlwytho’r cymhwysiad.
  7. Ar ôl i'r cymhwysiad lawrlwytho, cliciwch ArubaQuickConnect.exe i agor y cymhwysiad. Efallai y bydd y ffeil hon yn eich ffolder Downloads.
  8. Cliciwch Yes os byddwch yn gweld y neges 'Do you want to allow this app to make changes to your device?'.
  9. Bydd Cardiff University Onboard Wizard yn llwytho.
  10. Ar ôl i chi glicio Next, bydd y cymhwysiad yn dechrau’r broses o osod y tystysgrifau angenrheidiol ar eich dyfais.
  11. Os bydd y naidlen Security Warning yn ymddangos, cliciwch Yes i osod y dystysgrif Cardiff-University-WEB-CA. Efallai y bydd yn ymddangos sawl gwaith. Cliciwch Yes bob tro. Efallai y bydd gofyn i chi roi cyfrinair gweinyddwr eich dyfais ar yr adeg hon.
  12. Pan fydd y broses wedi’i chwblhau, cliciwch Finish i gysylltu â’r rhwydwaith di-wifr eduroam.
  13. I gysylltu ag eduroam – ewch i Settings > Network and Internet > Wi-Fi a sicrhewch fod Use random hardware addresses ar gyfer eduroam wedi’i ddiffodd.
  14. Dylech allu defnyddio eduroam/ether-rwyd bellach pan fyddwch ar y campws.

    Nid oes dull cyfredol o rag-gofrestru dyfeisiau Chromebook i ffwrdd o'r campws. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod pan fyddwch ar y campws.

    Fideo

    Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

    Diffoddwch unrhyw VPN presennol ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr fod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'i osod i GMT y DU.

    Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif ‘Guest’, datgysylltwch cyn cyflawni’r dull isod.

    1. Cysylltu â Rhwydwaith Di-wifr 'CU-Wireless'
    2. Agorwch eich porwr Chrome ac ewch i dudalen nad yw'n un https fel http://neverssl.com
    3. Dewiswch 'Arall' fel y System Weithredol, NID Chromebook.
    4. Teipiwch eich cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair prifysgol. (Nid eich enw defnyddiwr)
    5. Cliciwch y botwm Mewngofnodi.
    6. Dewiswch 'Lawrlwytho tystysgrif', ac ar yr adeg honno bydd ffeil yn cael ei lawrlwytho i'ch dyfais.
    7. Cliciwch y dolenni Llwytho Tystysgrif i lawrlwytho'r ffeiliau tystysgrif canlynol. Gwnewch nodyn o ble maen nhw'n cael eu cadw ar gyfer cam diweddarach.
      1. ‘CardiffUniversityRootCA.crt’
      2. ‘ClearPass_Onboard_Certificate_Authority.crt’
    8. Gwnewch nodyn o destun cyfrinair y dystysgrif i'w ddefnyddio ymhellach ymlaen. (Adnewyddwch y porwr os oes angen)
    9. Yn eich porwr Chrome, ewch i 'chrome://settings/certificates/'
    10. Dewiswch y tab 'Awdurdodau' ac yna'r botwm "mewnforio".
    11. Ar waelod chwith y sgrîn, dewiswch 'Dewis pob ffeil'.
    12. Dewiswch 'CardiffUniversityRootCA.crt'. Dewiswch ef a chlicio Agor.
    13. Peidiwch â dewis unrhyw un o'r tri blwch gwirio a gwasgwch OK.
    14. Dewiswch y tab 'Eich tystysgrifau'.
    15. Gwasgwch y botwm ‘Mewnforio a Rhwymo’
    16. Ar waelod chwith y sgrîn, dewiswch 'Dewis pob ffeil'.
    17. Lleolwch y ffeil a arbedwyd yng ngham 6 uchod 'OnboardCertificates.pkcs12'. Dewiswch hi, a chlicio agor.
    18. Copïwch y cyfrinair a roddwyd ichi o'r blaen yng ngham 8 i'r blwch testun a gwasgu OK.
    19. Cliciwch ar eicon y cloc ar waelod ochr dde'r sgrîn.
    20. Cliciwch ar eicon y gosodiadau.
    21. Ar y dudalen ganlynol, o dan 'Rhwydweithiau' dewiswch 'Ychwanegu cysylltiad', ac yna 'Ychwanegu Wi-Fi'.
    22. Llenwch y manylion canlynol yn eu trefn: -
    • SSID - math 'eduroam'
    • Diogelwch - Dewiswch 'EAP'
    • Dull EAP - Dewiswch ‘EAP-TLS’
    • Dad-diciwch “Caniatáu i ddefnyddwyr eraill y ddyfais hon ddefnyddio'r rhwydwaith hwn." ar waelod y dudalen.
    • Tystysgrif Gweinydd - Dewiswch 'Cardiff-University-Root-CA'
    • Tystysgrif defnyddiwr - Dewiswch 'Awdurdod Tystysgrif ClearPass Onboard <Eich Cyfeiriad Ebost Prifysgol>'
    • Hunaniaeth - Teipiwch eich cyfeiriad ebost prifysgol
    • Dewiswch yr opsiwn i arbed eich manylion adnabod a’ch cyfrinair os oes angen.
    • Dewiswch ‘Cysylltu’
    1. Dylai'r Chromebook nawr gysylltu'n ddiogel ag eduroam pan fyddwch chi ar y campws.

Lawrlwythwch ganllaw PDF gyda sgrinliniau.

Mae'r cyfarwyddiadau hyn wedi'u hysgrifennu yng nghyd-destun gliniadur Ubuntu 18.04 64-bit. Os ydych yn dod o rwydwaith cartref neu gysylltiad gwifrog (argymhellir) – cewch hepgor camau 2-5.

Diffoddwch unrhyw VPN presennol ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr fod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'i osod i GMT y DU. Mae angen diffodd meddalwedd atal meddalwedd am ychydig.

  1. Dylech anghofio proffiliau di-wifr cyfredol ‘eduroam’ a ‘CU-Wireless’ o restr y rhwydweithiau sydd ar gael os ydynt yn bodoli. Cewch hyd i’r rhain o dan ‘settings’ a ‘WiFi’.
  2. Ailddechreuwch eich dyfais.
  3. Ewch i ‘Settings’ a ‘WiFi’
  4. Dewiswch CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael.
  5. Bydd eich dyfais yn cysylltu â CU-Wireless, gan ddangos ‘Connected’.
  6. Cyfeiriwch Chrome eich hun at https://onboard.cardiff.ac.uk os nad ydych yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
  7. Ar y dudalen mewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost prifysgol llawn a'ch cyfrinair.
  8. Gwnewch yn siŵr fod y system weithredu gywir wedi'i chanfod (e,e, Ubuntu (64-bit)) yna cliciwch ‘Log In’.
  9. Dewiswch Start QuickConnect ar y sgrîn nesaf i lawrlwytho QuickConnect i'ch dyfais.
  10. Ar ôl ei lawrlwytho, bydd ffenestr yn ymddangos sy’n cynnwys cyfarwyddiadau gosod:
  • agorwch ffenestr derfynell (e.e. defnyddio ctrl-alt-t)
  • rhedeg sh ~/Downloads/ArubaQuickConnect.sh
  • Arhoswch i ffenestr ap QuickConnect ymddangos ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr ap. Bydd yr ap yn eich annog i roi cyfrinair eich peiriant lleol i'w alluogi i redeg gyda breintiau uwch
  • Cliciwch gorffen yn yr ap – dylai'r ffenestr ar y bwrdd ddangos "Device provisioning complete"

Ailddechreuwch eich dyfais. Byddwch nawr yn cysylltu ag eduroam pan fyddwch ar y campws.

Mynd ar-lein yn eich preswylfa

Os ydych mewn preswylfa a reolir gan y prifysgol gallwch hefyd gysylltu eich dyfeisiau drwy wasanaeth ResLAN (Rhwydwaith Ardal Leol Preswylfeydd) y prifysgol, sy'n darparu cysylltiad ether-rwyd gwifredig â'r rhyngrwyd ac yn defnyddio'r un cyfarwyddiadau cysylltu â chysylltu â'r rhwydwaith di-wifr.

Gallwch hefyd gysylltu dyfeisiau di-wifr nad ydynt yn liniaduron neu'n ffonau clyfar, megis seinyddion clyfar, consolau gemau a setiau teledu clyfar â rhwydwaith CU-PSK.

Sylwer bod y brifysgol ond yn gweithredu ac yn cynnal a chadw’r rhwydweithiau di-wifr 'eduroam', 'CU-Wireless', 'CU-Visitor' a 'CU-PSK'. Peidiwch â cheisio cysylltu ag unrhyw rwydwaith arall oni bai eich bod wedi cael caniatâd i wneud hynny gan y person sy'n gyfrifol am y rhwydwaith hwnnw.

Cymorth TG