Ewch i’r prif gynnwys

Dogfennau profi pwy ydych chi

Diweddarwyd: 12/07/2023 10:45

Er mwyn cael eich cerdyn myfyriwr Prifysgol Caerdydd, bydd angen i chi brofi pwy ydych chi.

Myfyrwyr rhyngwladol (y tu allan i'r UE/AEE)

Rhaid i chi ddod â'r canlynol gyda chi i gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr;

  • Pasbort gwreiddiol
  • Vignette clirio mynediad â stamp mewn pasbort (lle bo'n berthnasol)
  • Trwydded Breswyl Fiometrig (BRP) - efallai y bydd rhai myfyrwyr yn casglu hon gan Brifysgol Caerdydd
  • Tystysgrif ATAS, os yw’n berthnasol (cewch fanylion am hyn yn eich llythyr cynnig)

Myfyrwyr rhyngwladol (yn yr UE/AEE)

Rhaid i chi ddod â'r canlynol gyda chi i gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr;

  • Pasbort gwreiddiol
  • Cod rhannu – a gafwyd gan GOV.UK
  • Prawf o pryd y daethoch i mewn i'r DU (tocyn byrddio, e-docyn, manylion hedfan)
  • Os nad yw’r dogfennau hyn gennych, ni fyddwch yn cael cerdyn adnabod myfyriwr, a dylech gysylltu â Chymorth Fisa Myfyrwyr (SVS) am gyngor.

Os nad oes gennych unrhyw un o'r rhain, ni chewch gerdyn adnabod myfyriwr. Cysylltwch â’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr cyn gynted â phosibl am gyngor.

Ymholiadau Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol

Contact us through Student Connect

Myfyrwyr sy'n wladolion cartref a'r UE (gyda statws sefydlog neu ragsefydlog EUSS)

Os nad ydych wedi uwchlwytho'ch dogfennau RTS ar-lein fel rhan o'r broses gofrestru, yna bydd angen i chi ddod ag un o'r canlynol gyda chi;

  • Pasbort gwreiddiol y DU (neu basbort UE ar gyfer EUSS)
  • Tystysgrif geni wreiddiol y DU
  • Tystysgrif brodori wreiddiol y DU
  • Tystysgrif hawl preswylio wreiddiol y DU

Ar gyfer myfyrwyr cartref o'r DU, os nad oes gennych un o'r uchod, efallai y bydd yn bosib cael cerdyn adnabod myfyriwr dros dro dim ond os gallwch ddarparu dau o'r canlynol (rhaid i un ohonynt gynnwys eich cyfeiriad, wedi’i gadarnhau yn ystod y broses cofrestru, fel sydd ar gofnod myfyriwr y brifysgol):

  • trwydded yrru ffotograffig y DU
  • dogfennau morgais neu gytundeb tenantiaeth
  • cerdyn debyd (mewn lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr yn unig)
  • cerdyn credyd neu gerdyn tâl cyfredol (mewn lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr yn unig)
  • llyfr banc neu gymdeithas adeiladu (mewn lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr yn unig)
  • llyfr siec (mewn lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr yn unig)
  • trwydded yrru lawn (heb luniau)
  • bil cyfleustodau
  • tystysgrif priodas
  • Dogfennau’r Swyddfa Gartref
  • Dogfennau Cyllid y Wlad
  • trwydded waith
  • Cerdyn Yswiriant Gwladol
  • gohebiaeth gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu'r awdurdod lleol.

Os ydych wedi cael cerdyn myfyriwr dros dro, bydd dal yn ofynnol i chi ddarparu eich Pasbort neu Dystysgrif Geni o fewn wyth wythnos i gasglu eich cerdyn myfyriwr.