Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifon banc i fyfyrwyr

Diweddarwyd: 09/08/2023 14:16

Gall gorddrafftiau di-log a gynigir gan gyfrifon banc i fyfyrwyr helpu i bontio rhwng yr adegau pan delir cyllid i fyfyrwyr.

Nid yw cyfrifon banc i fyfyrwyr yn orfodol, ond maent yn cynnig manteision.

Mae agor cyfrif banc yn y DU yn wahanol i fyfyrwyr rhyngwladol ewch i'n canllaw ar agor cyfrif banc fel myfyriwr rhyngwladol.

Manteision cyfrif myfyriwr

Prif fantais cyfrif banc i fyfyriwr yw y gallent gynnig gorddrafftiau di-log. Mae hyn yn golygu y gallwch fenthyg arian (hyd at derfyn a gytunwyd o flaen llaw) heb dalu llog arno. Ar y cyfan, bydd hyn ond yn bosibl os yw eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i mewn i’r cyfrif hwnnw. Mae hyn yn golygu y gallwch ond gael un cyfrif banc myfyriwr.

Er mai peidio â benthyg dim fyddai orau, dylid yn bendant ddefnyddio gorddrafft di-log er mwyn eich helpu i reoli'ch arian ac osgoi gorfod troi at gardiau credyd neu unrhyw fenthyciadau eraill.

Yn aml mae banciau yn cynnig cymhellion i agor cyfrif banc i fyfyrwyr â nhw, fel talebau siopa neu gardiau gostyngiad. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn agor y cyfrif sydd orau i chi, ac nid yr un gyda’r prif atyniad. Cewch ragor o wybodaeth am y gwahanol gyfrifon sydd ar gael ar Save the Student neu Money Saving Expert.

Mae gwahanol fanciau yn cynnig telerau ac amodau gwahanol, felly gwneud yn siŵr eich bod yn darllen y print bras ac yn dewis cyfrif yn seiliedig ar eich anghenion, boed yn cynnig y gorddrafft mwyaf neu gerdyn trenau i wneud teithio adref yn rhatach.

Gall gyfrifon banc i fyfyrwyr ddarparu rhwyd ddiogelwch defnyddiol wrth droedio llwybr ariannol cul bywyd myfyriwr, cyn belled â’ch bod yn eu defnyddio yn gyfrifol. Cofiwch mai terfyn yw gorddrafft, nid targed. Dylid ei ystyried fel ffynhonnell arian i’ch helpu chi i reoli eich llif arian rhwng taliadau cyllid, felly mae cyllidebu gofalus yn parhau’n hanfodol.

Mwy o wybodaeth a chymorth gyda chyllidebu

Byddwch yn ymwybodol

Gall fynd dros eich terfyn gorddrafft sydd wedi’i drefnu, arwain at gostau ac effeithio eich sgôr credyd. Er mwyn defnyddio eich cyfrif myfyrwyr yn gyfrifol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw terfyn eich gorddrafft a gwiriwch eich cyfrif banc yn rheolaidd i osgoi costau a mynd dros y terfyn hwn.

Cofiwch fod rhaid talu’r benthyciad yn ôl maes o law. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o delerau ac amodau eich cyfrif, gan gynnwys beth sy’n digwydd wedi i chi adael y brifysgol er mwyn osgoi unrhyw gostau llog.

Pan fyddwch yn mynd i gangen i agor cyfrif, dylai bod aelod o staff ar gael i roi’r holl fanylion i chi. Bydd rhai banciau yn trosi eich cyfrif myfyriwr yn gyfrif graddedig ar ddiwedd eich gradd. Yn aml, bydd y rhain hefyd â gorddrafft di-log am gyfnod penodol i roi digon o amser i chi dalu’r arian a fenthycwyd gyda’r cyfleuster gorddrafft.

Cyngor pellach

Os ydych yn cael trafferthion ariannol neu ss oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfrifon banc myfyrwyr neu sut i ymdopi â’ch arian yn y Brifysgol, gallwch gysylltu â’r tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr:

Cyngor ac Arian Myfyrwyr