Ewch i’r prif gynnwys

Cerdyn adnabod myfyriwr

Diweddarwyd: 16/10/2023 15:43

Mae eich cerdyn adnabod myfyriwr yn brawf o bwy ydych chi, yn eich galluogi i gael mynediad i’r llyfrgell ac at e-ddysgu a’ch galluogi i fynd mewn i adeiladau’r brifysgol.

Mae’ch cerdyn adnabod myfyriwr yn ddilys yn ystod eich cyfnod astudiaeth, ac mae’n rhaid i chi ei gario ar safleoedd y brifysgol.

Mae casglu eich cerdyn adnabod myfyriwr yn gam gorfodol yn y broses gofrestru. Os ydych yn dod i'r campws, bydd rhaid i chi nôl eich cerdyn yn bersonol o fewn tair wythnos i ddyddiad dechrau eich cwrs i gwblhau'r broses ymrestru.

Rhaid i chi gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr unwaith y byddwch yn ymuno â'r campws i gwblhau ymrestriad ar-lein. Unwaith y fyddwch wedi cwblhau ymrestriad ar-lein, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr o un o'r mannau casglu a restrir isod.

Myfyrwyr rhyngwladol

Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio ar y campws ddod â'u dogfennau pasbort a fisa gwreiddiol (gan gynnwys tystysgrif ATAS os oes angen) i gadarnhau eu hawl i astudio fel y gellir rhoi cerdyn adnabod myfyriwr.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol (o'r tu allan i'r UE), bydd angen i chi ddod â'ch pasbort a'ch Trwydded Breswyl Fiometrig (BRP) gyda chi i gasglu'ch cerdyn adnabod myfyriwr. Os ydych wedi dewis casglu eich BRP o’r brifysgol, byddwch yn derbyn e-bost pan fydd yn barod a ble i’w gasglu.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol (o'r tu mewn i'r UE/AEE), bydd angen i chi ddod â chod rhannu gyda chi er mwyn i ni allu gwirio'ch statws mewnfudo, ynghyd â'ch pasbort (a thystysgrif ATAS os oes angen).

Myfyrwyr o’r DU neu’r UE (gyda statws sefydlog neu gyn-sefydlog)

Myfyrwyr cartref – rhaid i chi gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr o un o'r pwyntiau casglu isod.

Os nad ydych wedi cwblhau'r gwiriadau Hawl i Astudio (RTS) ymlaen llaw, rhaid i chi ddod â'ch pasbort / tystysgrif geni gyda chi. Mae gennych gyfle i gyflwyno eich dogfennau RTS ac uwchlwytho ffotograff i'w ddefnyddio ar eich cerdyn adnabod myfyriwr trwy eich cyfrif SIMS unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru ar-lein.

Myfyrwyr â statws preswylydd sefydlog / cyn-sefydlog EUSS - bydd gofyn i chi ddod â'ch pasbort a "chod rhannu" (y byddwn yn ei ddefnyddio i wirio eich statws) gyda chi pan fyddwch yn casglu eich cerdyn myfyriwr.

Os ydych wedi gwneud cais am gyllid drwy Gyllid Myfyrwyr, dim ond pan fyddwch wedi cadarnhau eich RTS y caiff hwn ei ryddhau.

Os ydych chi'n fyfyriwr cartref, ac eisoes wedi uwchlwytho eich dogfennau adnabod, bydd angen i chi ddod â math o brawf o'ch hunaniaeth. Os nad ydych wedi gallu uwchlwytho eich dogfennau adnabod, rhaid i chi ddod â nhw gyda chi i gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, bydd angen i chi ddod â'ch pasbort gwreiddiol a'ch dogfennau fisa (BRP a lle bo angen tystysgrif ATAS) i'r lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr.

I gael gwybod mwy, gweler ein rhestr o ddogfennau derbyniol.

Dylech wneud yn siŵr hefyd fod eich rhif myfyriwr wrth law.

Dylai myfyrwyr gasglu eu cerdyn adnabod o'r lleoedd canlynol, oni bai bod eich Ysgol wedi rhoi gwybod ichi am ddigwyddiadau a drefnwyd ar wahân.

Myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr y DU

Gallwch chi gasglu eich cerdyn adnabod gan dîm Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, 09:15 - 16:45 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 16 Hydref 2023.

Os na fyddwch chi’n gallu casglu’r cerdyn rhwng yr amseroedd hyn, gwnewch ymholiad trwy Borth Cyswllt y Myfyrwyr gan ddewis y categori ymholiad 'Ymholiad cerdyn adnabod y myfyriwr' neu ffoniwch +44 (0)29 2251 8888.

Myfyrwyr y DU ym Mharc y Mynydd Bychan

Gallwch chi gasglu eich cerdyn adnabod yn Adeilad Cochrane ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 08:00-13:00.

Os byddwch yn dod i'r campws, nid ydych wedi cwblhau'r broses cofrestru nes y byddwch wedi casglu eich cerdyn myfyriwr.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae’n ofynnol i’r Brifysgol eich cofnodi fel ‘Ddim yn Bresennol’ o dan ei gytundeb trwydded noddi gyda Mewnfudo Fisa’r Deyrnas Unedig.

O dan rheoliadau’r Brifysgol, bydd methu â chasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr o fewn pedair wythnos o ddechrau eich cwrs yn amharu ar eich astudiaethau a'ch cofrestriad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall newid eich rhaglen gael effaith ar hyd eich astudiaeth. Os byddwch yn newid eich rhaglen, dim ond os bydd hyd eich astudiaeth yn cynyddu neu os byddwch yn newid ysgol academaidd y bydd angen i chi gael cerdyn adnabod myfyriwr newydd, byddwch yn gallu adnewyddu hwn yn un o'r mannau casglu cerdyn adnabod myfyriwr.

Os ydych ar gwrs sydd wedi'i ddynodi fel dysgu o bell ac yr hoffech gael cerdyn adnabod (er nad yw hyn yn orfodol), bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais cerdyn myfyriwr a'i anfon i swyddfa eich Ysgol gyda llun pasbort.

Bydd angen i chi wneud trefniadau gydag eich Ysgol i’w ddosbarthu unwaith y bydd wedi cael ei gynhyrchu.

Os byddwch chi’n colli eich cerdyn adnabod, neu os caiff ei ddwyn neu ei ddifrodi, gallwch chi ofyn am un newydd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Hwyrach y bydd ffi o £10 am y cerdyn newydd.

Gallwch chi gael gafael ar fersiwn ddigidol o'ch Cerdyn Adnabod Myfyriwr yn Ap y Myfyrwyr sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Cysylltu

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â'r cerdyn adnabod myfyriwr, cysylltwch â:

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)