Ewch i’r prif gynnwys

Eich adnoddau digidol a rhaglenni TG

Diweddarwyd: 19/09/2023 11:53

Ar ôl ymrestru, bydd ystod o adnoddau digidol, rhaglenni TG, meddalwedd a chymorth ar gael ichi tra byddwch chi’n astudio yma.

Bydd y canlynol ar gael ichi hefyd:

  • y gyfres o raglenni Microsoft 365 (gan gynnwys Teams a'r gyfres o raglenni Office) yn rhad ac am ddim
  • cyfrif Zoom y gallwch chi ei ddefnyddio ar gyfer galwadau yn y brifysgol a galwadau personol
  • rhwydwaith diwifr y brifysgol, sef eduroam
  • meddalwedd wrth-firws
  • ap y myfyrwyr a mewnrwyd y myfyrwyr
  • rhaglen gwirio sillafu a gramadeg yn y Gymraeg, sef Cysgliad
  • Cyfrifiaduron y mae angen trefnu amser i’w defnyddio ymlaen llaw ac argraffwyr
  • Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) y brifysgol
  • rhaglenni digidol gan gynnwys SIMS ar-lein, Dysgu Canolog (ein hamgylchedd dysgu rhithwir), LibrarySearch, a MATLAB
  • cymorth a chefnogaeth TG dros y ffôn 24/7 (efallai na fydd modd datrys rhai ceisiadau yn ystod yr wythnos rhwng 17:00 a 08:00, yn ystod penwythnosau a gwyliau banc).

Amgylchedd dysgu rhithwir

Mae gan bob cwrs adran benodol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sef Dysgu Canolog. Mae ar gael drwy’r we, a bydd pethau ar gael ichi yma i’w darllen, eu gwylio a’u gwneud ar-lein, gan ddibynnu ar eich cwrs. Byddwch chi’n cyflwyno’r rhan fwyaf o’ch aseiniadau ar-lein ac yn cael marciau ac adborth yma, hefyd.

Mae Panopto yn ei gwneud yn bosibl recordio darlithoedd a gweithgareddau dysgu eraill. Mae’r recordiadau’n cael eu rhannu ar-lein wedyn drwy Ddysgu Canolog, a bydd modd eu gweld ar-lein neu drwy ap ar eich ffôn symudol. Gall adolygu’r recordiadau fod yn arbennig o ddefnyddiol tuag adeg arholiadau ac asesiadau.

Mewnrwyd y myfyrwyr

Unwaith y byddwch chi wedi ymrestru, byddwch chi’n gallu defnyddio mewnrwyd y myfyrwyr. Yma, byddwch chi’n gallu gweld y newyddion diweddaraf a manylion am ddigwyddiadau ar y campws, manteisio ar yr holl offer, rhaglenni, adnoddau, gwasanaethau a manteision sydd ar gael ichi a chael rhagor o wybodaeth am adeiladau, cyfleusterau a thimau’r brifysgol. Byddwch hefyd yn cael mynediad at feddalwedd gwrth-firws rhad ac am ddim.

Cysylltu â'r wifi

Mae ein rhwydwaith diwifr ar y campws ar gael yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ar ôl cofrestru.

Diogelwch ar-lein

Amddiffyn eich hun a llwytho i lawr ein meddalwedd gwrth-firws rhad ac am ddim.

Creu Dilysu Aml-ffactor (MFA)

Mae Dilysu Aml-Ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch mewngofnodi i'ch cyfrif prifysgol drwy sicrhau eich bod yn mewngofnodi ar ddyfais arall.

Ap Myfyrwyr

Y ffordd hawdd o gynllunio eich diwrnod, cadarnhau lle mae angen i chi fod, a chael help a chymorth.