Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio yn ystod eich astudiaethau

Diweddarwyd: 22/12/2022 09:14

Bydd gweithio yn ystod eich astudiaethau yn eich galluogi i gadw trefn ar eich cyllideb yn haws, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd.

Y ffordd orau o gynyddu eich incwm yn y Brifysgol yw chwilio am waith rhan-amser; mae bron i ddau draean o fyfyrwyr yn gweithio rhan-amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Mae cael swydd yn ffordd wych o ennill arian ychwanegol a datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol.

Er gall gweithio fod yn ddefnyddiol, mae’n bwysig cadw cydbwysedd rhwng gwaith ac astudiaethau. Rydym yn argymell nad ydych yn gweithio mwy na 15 awr yr wythnos yn ystod y tymor.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, gall gyfyngiadau cyflogadwyedd penodol fod yn gymwys yn dibynnu ar y math o fisa sydd gennych.

Dod o hyd i waith gyda'r Siop Swyddi

Os oes diddordeb gennych mewn dod o hyd i waith tra’ch bod yn y brifysgol, mae SiopSwyddi yn wasanaeth cyflogaeth am ddim i fyfyrwyr sydd wedi’i leoli yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd (Plas y Parc). Mae SiopSwyddi yn hysbysebu gwaith achlysurol sy’n hyblyg i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau academaidd, sy’n eich helpu i ‘Ennill wrth Ddysgu’.

Mae cyfleoedd ar gael o fewn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a gyda chyflogwyr lleol. Gallwch gofrestru gyda’r SiopSwyddi, dewis derbyn negeseuon am swyddi, golygu’ch dewisiadau, pori ac ymgeisio am swyddi ar-lein.

Interniaethau a phrofiad gwaith

Gallwch wneud cais am interniaethau neu brofiad gwaith sy’n fwy perthnasol i’ch gradd, ac sy’n eich galluogi i rwydweithio. Mae interniaethau yn aml yn gyflwyniad gwych i'ch gyrfa ac mae'r tîm Dyfodol Myfyrwyr yn dod o hyd i amrywiaeth o gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn.

Ar ôl i ymrestru, crëwch gyfrif Dyfodol Myfyrwyr lle gallwch chwilio am swyddi a gwneud cais ar eu cyfer.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn Dyfodol Myfyrwyr CU/CU Student Futures.

Os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais am swyddi, creu CV neu drafod eich gyrfa yn y dyfodol, cysylltwch â Dyfodol Myfyrwyr.

Cyngor pellach

Os oes angen cymorth arnoch i ymgeisio am swyddi, creu CV neu drafod eich gyrfa yn y dyfodol, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr.

Dyfodol Myfyrwyr