Ewch i’r prif gynnwys

Siarter y Myfyrwyr

Diweddarwyd: 08/12/2023 16:13

Mae Siarter y Myfyrwyr yn amlinellu'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r rôl sydd gennych o ran manteisio ar eich amser gyda ni i’r eithaf.

Rydyn ni’n awgrymu ichi ddarllen Siarter y Myfyrwyr cyn ichi gyrraedd.

Y Siarter

Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod profiad pob myfyriwr cystal ag y bo modd drwy wneud y canlynol:

Mae myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i gryfhau eu profiad fel myfyrwyr.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau profiad addysgol rhagorol ac o ansawdd uchel yn gyson i fyfyrwyr ac mae gennym is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr a fydd yn gwella ansawdd dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr.

Bydd y Brifysgol yn gwrando ac yn ymateb i lais y myfyrwyr i greu sefydliad dysgu sy'n cwrdd â’u disgwyliadau ac yn helpu i ehangu eu profiad. Mae gennych amryw o gyfleoedd i fynegi eich barn am yr hyn mae’r Brifysgol yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallai ei wella.

Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi am newidiadau sydd wedi deillio o’ch adborth mewn amryw ffyrdd megis: System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr (sy'n cynnwys paneli staff myfyrwyr), Wythnos Siarad (ymgyrch blynyddol i roi llais i fyfyrwyr), mewnrwyd myfyrwyr, Dysgu Canolog, ap myfyrwyr, a newyddion myfyrwyr (dros e-bost, cylchlythyrau, papurau newydd ac ati)

Diben Undeb y Myfyrwyr yw cynrychioli ei aelodau yn y Brifysgol trwy eich gwahodd i gymryd rhan yn y prosesau ac ymgyrchoedd democrataidd, gwrando ar lais y myfyrwyr a nodi pethau sy’n codi dro ar ôl tro yn adborth myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn casglu adborth gan fyfyrwyr i gynhyrchu Barn y Myfyrwyr, gan nodi tueddiadau a gwneud argymhellion ar gyfer gwella profiad y myfyrwyr ymhellach.

Mae'r Brifysgol yn cynnig addysg sy'n ceisio cyffroi, ysgogi, estyn a helpu myfyrwyr.

Diben y rhaglenni astudio yw galluogi chi i ymgysylltu'n weithredol gyda'ch prosesau dysgu, dod yn rhan o gymuned ddysgu'r Brifysgol, a buddio o'n diwylliant ymchwil ardderchog. Dylai eich addysg eich helpu i ddod yn ddysgwr annibynnol sy'n frwdfrydig ac yn ymrwymedig i'ch astudiaethau. Mae lleoedd dysgu ffisegol, cymdeithasol a rhithwir y Brifysgol wedi'u dylunio ar y cyd â'n myfyrwyr. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ymgorffori uniondeb academaidd o fewn y gymuned ddysgu.

Mae gan Brifysgol Caerdydd amgylchedd cyffrous a buddiol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o weithgareddau addysgol, cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol i’ch ysgogi, eich estyn a’ch helpu er eich llwyddiant.

Mae ein hymrwymiad yn dibynnu ar bartneriaeth weithredol rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol, gan wrando ar farn myfyrwyr a gweithredu arnynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw newidiadau i raglenni yn effeithio'n ormodol ar fyfyrwyr ac mae ein proses o ddod â rhaglenni i ben yn sicrhau bod safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr yn cael eu diogelu pan mae cwrs yn dod i ben. Mae Undeb y Brifysgol a'r Myfyrwyr yn croesawu adborth gan fyfyrwyr ar bob agwedd ar fywyd myfyrwyr.

I gefnogi eich dysgu, bydd y Brifysgol yn darparu adborth rheolaidd, amserol (dim mwy nag 20 diwrnod gwaith ar gyfer gwaith cwrs), ac adborth adeiladol i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr i bersonoli eu prosesau dysgu a'u cefnogi yn ystod eu hastudiaethau.

Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol i fod yn elfen hanfodol o'n darpariaeth i fyfyrwyr. Yn sgîl hyn, rydym yn cynnig cymorth amrywiol sy'n helpu myfyrwyr i ofalu am eu lles a'u hiechyd yn ystod eu hastudiaethau. Rydym wedi ymrwymo i amgylchedd dysgu, gweithio a byw diogel sy’n hybu eich iechyd meddwl, a lle gall pob aelod o gymuned Prifysgol Caerdydd i ffynnu. Mae'r Brifysgol wedi gweithio gyda phartneriaid i fabwysiadu ymagwedd tuag at iechyd meddwl sy'n rhychwantu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd, yn unol ag arferion gorau yn y sector. Rydym wedi nodi hyn yn Galluogi Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy'n Iach yn Feddyliol.  Ein nod yw gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl a lles cadarnhaol yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Mae cydweithio â'n staff, myfyrwyr a'r gymuned yn fwy eang yn ganolog ar gyfer gosod y sail ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol gydol oes a chreu prifysgol sy'n iach yn feddyliol.

Mae gan fyfyrwyr fynediad at ystod o wasanaethau i gefnogi a gwella bywyd myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau i gefnogi lles, datblygu sgiliau newydd, rheoli arian, ac ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd a bywyd myfyrwyr. Mae ein gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol yno i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu academaidd. Maen nhw'n helpu i sicrhau ein bod i gyd yn byw ac yn gweithio mewn cymuned ddiogel a chynhwysol. Rydyn ni’n eich annog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael cyn gynted ag y bo modd os oes ei angen arnyn nhw.

Mae saith swyddog sabothol amser llawn gan Undeb y Myfyrwyr ac un ar ddeg swyddog ymgyrchoedd i gynrychioli anghenion a diddordebau'r myfyrwyr.

Cynlluniwyd ein polisi Diogelu i arwain y Brifysgol yn ei dyletswydd statudol a moesol i ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl/sy’n agored i niwed sy’n dod i gysylltiad â chymuned y Brifysgol, a’r staff sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn perygl/sy’n agored i niwed, i wneud yn siŵr bod canllawiau a gweithdrefnau clir ar gyfer nodi perygl a rhoi gwybod am bryderon.

Rydyn ni’n falch o fod yn brifysgol yng nghanol prifddinas Cymru. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i ymgysylltu â diwylliant Cymru, gan gynnwys digwyddiadau cenedlaethol, yr iaith Gymraeg a hanes Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac wrth sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg dan anfantais o ran y gwasanaethau y gallant gael mynediad atynt, eu cyfleoedd academaidd na’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae gwybodaeth i chi ynghylch cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar dudalennau gwe cangen y Coleg Cymraeg. Ein nod yw parhau i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ymysg ein holl fyfyrwyr a disgwyliwn i’n myfyrwyr ddangos parch at bwysigrwydd y Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn galluogi pob myfyriwr i ennill a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Mae gennym Strategaeth Iaith Gymraeg, sy'n adeiladu ar ein mentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg presennol trwy ddarparu agenda ddiwylliannol a chymunedol ddiffiniedig. Fel rhan o hyn, ein nod yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog, ac ehangu a gwella ein darpariaeth ar gyfer addysgu yn y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ceisio datblygu Cynnig Caerdydd (ein cynnig Cymraeg) ar gyfer ein myfyrwyr.

Mae cangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Brifysgol ac rydym yn cydweithio â'r Coleg Cymraeg i ddatblygu a darparu portffolio cynaliadwy o ddarpariaeth addysgol Cymraeg a bodloni anghenion ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, a chyflogwyr yn y dyfodol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i Safonau'r Gymraeg, gan ddarparu Tiwtor Personol Sy'n siarad Cymraeg i fyfyrwyr lle y gofynnir amdanynt a sicrhau bod y rhai sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu cynnal asesiadau ac arholiadau yn Gymraeg (heb unrhyw oedi i ganlyniadau).

Ceir cynrychiolaeth Gymraeg hefyd ar ffurf Is-lywydd etholedig ar gyfer y Gymraeg, Diwylliant, a Chymuned. Crëwyd y rôl hon yn 2023 ar ôl i’r myfyrwyr ofyn am greu’r rôl hon yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr 2021.

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) yn undeb o fewn Undeb y Myfyrwyr. Mae’n gyfrifol am gynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a phawb sy’n ymddiddori yn y Gymraeg a’i diwylliant yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd. Arweinir UMCC gan Is-lywydd y Gymraeg, Diwylliant a Chymuned yr Undebau sy'n Llywydd UMCC. Daeth y rôl hon yn swydd lawn amser â thâl yn 2023 yn dilyn ymgyrchoedd gan fyfyrwyr i gynyddu cynrychiolaeth y Gymraeg.

Rydym yn gweithio i ddarparu cymuned Prifysgol gynhwysol sy'n croesawu ac yn cefnogi myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, gan ffurfio cymuned fyd-eang amrywiol.

Gall ein holl fyfyrwyr ddisgwyl croeso a chymorth wrth ymaddasu i fywyd prifysgol ac, o’u rhan nhw, mae disgwyl iddyn nhw gyfrannu at awyrgylch croesawgar i bawb.

Gyda'n gilydd, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd croesawgar, cynhwysol a diogel i'n myfyrwyr a'n staff. Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo hinsawdd o gyfle cyfartal i bob myfyriwr ac mae wedi ymrwymo i fodloni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig. Byddwn ni’n mynd i’r afael ag ymddygiad gwahaniaethol negyddol gan gynnwys y rheiny sy’n seiliedig ar ystrydebau ac agweddau rhagfarnllyd. Rydym yn eich annog i gyfrannu at ddiwylliant campws cadarnhaol trwy gymryd cyfrifoldeb am ddysgu am eich gilydd, bod yn gefnogol i'ch gilydd, a hysbysu'r Brifysgol am unrhyw faterion.

Gofynnwn i’n cymuned staff a myfyrwyr hunan-reoleiddio mewn modd parchus, gan ddwyn ein gilydd i gyfrif i sicrhau ein bod i gyd yn dilyn y gofynion, gan addysgu ein gilydd ar ymddygiad priodol, gan gadw’r Brifysgol yn lle diogel a chynhwysol i bawb. Mae hynny'n cynnwys cyfnodau ym myd gwaith a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill, ac amser ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ein Polisi Urddas yn y Gweithle ac mewn Addysg yn dangos ein hagwedd ar draws y Brifysgol at hyrwyddo amgylchedd a diwylliant gweithio, dysgu ac ymchwil lle croesewir gwahaniaethau ac lle na oddefir unrhyw fath o aflonyddu, bwlio neu erledigaeth. Mae'r Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr yn nodi disgwyliadau'r Brifysgol o ymddygiad myfyrwyr.  Mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglenni sy'n arwain at gofrestriad proffesiynol hefyd ddilyn y Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer.  Rydym yn darparu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo'n hyderus i roi gwybod i ni os yw ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff sy'n defnyddio'r Weithdrefn Gwyno Myfyrwyryn effeithio'n andwyol ar eu profiad Prifysgol.

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd a chymorth i bob myfyriwr feithrin rhinweddau fydd yn ei alluogi i lwyddo yn fel dinesydd y byd a gwneud gwahaniaeth go iawn yn y byd.

Mae’r Brifysgol yn annog chi i ymgysylltu â phryderon byd go iawn yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt. Ein nod yw rhoi cyfleoedd i'n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol a'r rhinweddau ar gyfer bod yn ddinasyddion byd-eang effeithiol a brwdfrydig. Rydyn ni’n helpu myfyrwyr i adnabod y medrau maen nhw’n eu meithrin fel y gallan nhw eu hamlygu a’u cofnodi’n briodol.  Mae ambell enghraifft o hyn i'w gael ar yr Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy ac rydym yn llofnodi'r Cytundeb Nod Datblygu Cynaliadwy. Fel rhan o hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn ymgysylltu'n ystyrlon â her fyd-eang cynaliadwyedd. Er enghraifft, drwy ddarparu cyfleoedd mewn cwricwla ffurfiol ac anffurfiol i ymgysylltu â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn ogystal â galluogi myfyrwyr a staff i wneud newidiadau ystyrlon i fyw bywydau mwy cynaliadwy ar ac oddi ar y campws. Ceir enghreifftiau pellach ar dudalen fewnrwyd Wythnos Gynaliadwyedd 2023.

Rydyn ni’n eich annog i fireinio eich sgiliau trwy fanteisio ar y cyfleodd sydd ar gael, naill ai’n rhan o raglen astudio neu’n weithgaredd allgyrsiol. Mae hynny'n cynnwys astudio a lleoliadau dramor, fel rhan o'u cyrsiau ac yn ychwanegol i'w cyrsiau. Gall hynny fod yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod gwyliau'r haf, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, fel y Cynllun Mentor Myfyrwyr, yr Undeb Athletau, Urdd y Cymdeithasau, y Ganolfan Sgiliau, Gwirfoddoli, Cynrychioli Myfyrwyr, y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau, Menter, Senedd y Myfyrwyr a'r Siop Swyddi.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol a chynaliadwyedd Cymru, yn unol â’r egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Gall ein myfyrwyr ddisgwyl i’r Brifysgol gyfathrebu â nhw mewn modd gonest, agored, cywir ac amserol a thrin a thrafod unrhyw bryderon a godir mewn modd tringar a phroffesiynol.

Mae'r Brifysgol yn rhoi gwybodaeth clir ynghylch rhaglenni, modiwlau ac asesiadau i fyfyrwyr ac yn cadw at y gyfraith diogelu defnyddwyr, yn unol â'r hyn a bennir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Mae'r Brifysgol yn ei gwneud yn glir i ymgeiswyr lle y gallai fod angen costau ychwanegol i gyflawni eu cwrs. Mae costau ychwanegol wedi'u nodi ar dudalennau chwiliwr cwrs y Brifysgol o dan yr adran ffioedd dysgu, a chaiff ymgeiswyr fanylion ar PDF eu llythyr cynnig.

Disgwylir i chi ddweud wrth y Brifysgol pryd y mae amgylchiadau a allai effeithio ar eich astudiaethau, fel bod modd inni ddarparu cymorth a chefnogaeth lle bo angen.  Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â phrosesau'r Brifysgol ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau esgusodol a deall canlyniadau posibl cais llwyddiannus o dan y Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol (Israddedig ac Ôl-raddedig).  Defnyddir gweithdrefn ar wahân ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Os oes gan fyfyrwyr anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, efallai y bydd ganddynt hawl i gymorth ychwanegol neu addasiadau rhesymol i raglen astudio, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol. Mae cyngor ar gael gan Wasanaeth Anabledd Myfyrwyr y Brifysgol.

Er mwyn bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf, disgwylir i chi dalu sylw i gyfathrebiadau'r Brifysgol, yn enwedig i e-byst, hysbysiadau Ap Myfyrwyr a mewnrwyd y myfyrwyr.

Os, o dan amgylchiadau eithriadol (e.e. pan mae'r Brifysgol ar gau achos eira, pandemig neu gyfnod o weithredu diwydiannol), nad yw'r Brifysgol yn gallu darparu'r hyn a hysbyswyd, bydd yn ceisio sicrhau bod yr effaith ar brofiad dysgu myfyrwyr cyn lleied â phosibl, drwy wneud yn siŵr bod addasiadau priodol yn cael eu gwneud i ddarpariaeth rhaglenni ac asesiadau (gweler hefyd yr Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr.) Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Brifysgol yn gwneud yn siŵr bod yna gyfathrebu amserol a chlir.  Mae hyn wedi'i ddatgan yn y Rheoliadau Academaidd o dan yr adran Amrywio’r Trefniadau. Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn cael eu hadolygu drwy'r flwyddyn a chaiff myfyrwyr wybod am newidiadau ar y fewnrwyd a chyfryngau eraill.

Mae ebost yn un o'n ffyrdd creiddiol o gyfathrebu â chi. Dylech wirio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd yn rheolaidd. Mewn argyfwng, byddwch yn derbyn hysbysiad ap yn eich hysbysu o'r sefyllfa ac unrhyw gamau gweithredu sy'n ofynnol gennych.

Rydyn ni’n cydweithio er lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Os nad yw myfyriwr yn mwynhau’r profiad yma yn ôl y disgwyl, mae gyda ni brosesau hirsefydlog i drin a thrafod y pryderon. Mae cymorth ar gael gan wasanaeth Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol a hefyd drwy Wasanaeth Cynghori Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, sy'n wasanaeth diduedd ac anfeirniadol rhad ac am ddim sy'n annibynnol i’r Brifysgol.

Rydym yn cydnabod y gall myfyrwyr fod yn anfodlon o bryd i'w gilydd ac efallai y byddant am wneud cwyn i'r Brifysgol. Rydym yn ystyried pob cwyn o ddifrif.  Disgwylir i fyfyrwyr godi pryder cyn gynted â phosibl ac o fewn 28 diwrnod i bryder godi.  Rhaid codi pryderon o dan y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr. Gellir cyflwyno cwyn os yw myfyriwr yn teimlo ei fod wedi dioddef niwed, anfodlonrwydd neu anfantais oherwydd gweithredoedd honedig aelod neu staff neu fyfyriwr; afreoleidd-dra wrth ddarparu rhaglen, darparu goruchwyliaeth, materion yn ymwneud â lleoliad neu bryder am ansawdd gwasanaethau, cyfleusterau neu adnoddau dysgu.

Gall myfyrwyr ofyn am gymorth ac arweiniad ar y broses gwyno, a holl weithdrefnau'r Brifysgol, gan wasanaeth Cyngor Myfyrwyr annibynnol Undeb y Myfyrwyr . Lle bynnag y bo modd, nod y Brifysgol yw datrys cwynion cyn gynted â phosibl. Caiff myfyrwyr gyfle i uwchgyfeirio pryderon a cheisio adolygiad o'r canlyniad.  Nod y Brifysgol yw cwblhau achosion cwynion o fewn 90 diwrnod. Os bydd myfyrwyr yn dal yn anfodlon ar ddiwedd prosesau mewnol y Brifysgol, gallant wneud cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Siarter y Myfyrwyr, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr neu Undeb y Myfyrwyr.

Y Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr

Undeb y Myfyrwyr