Ewch i’r prif gynnwys

Yswiriant

Diweddarwyd: 24/07/2023 09:33

Nid yw'r brifysgol yn gyfrifol am eich eiddo personol.

Fodd bynnag, darperir rhywfaint o yswiriant cynnwys gan Endsleigh Insurance, y prif ddarparwr yswiriant i fyfyrwyr, fel rhan o'ch contract.

Mae'n bwysig i chi wirio'r yswiriant hwn er mwyn sicrhau eich bod yn deall yr hyn sydd ac nad yw'n cael ei gynnwys, felly dilynwch y camau isod i wneud yn siŵr eich bod yn deall sut rydych yn cael eich gwarchod.

Rhowch y rhif polisi HH0152 ar dudalen 'check your cover' Endsleigh i wirio eich manylion polisi.

Ewch i ddolen cadarnhau eich yswiriant i wirio:

  • beth sy'n cael ei warchod
  • eithriadau a chyfyngiadau allweddol
  • tâl dros-ben eich polisi - y swm rydych yn ei dalu pan fyddwch yn gwneud hawliad
  • sut i wneud hawliad, ymestyn a phersonoli eich polisi

Mae’n bwysig i chi wybod beth yn union sy’n cael ei warchod, mae’n bosibl na fydd y cynnwys yr yswiriant yn ddigonol a bydd angen i chi ei ymestyn i warchod eich holl eiddo y tu mewn a’r tu allan i’ch ystafell.