Cofrestru ar-lein

Cofrestru ar-lein yw’r cam cyntaf i ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhaid i chi gofrestru ar-lein drwy wneud y canlynol:

  • cytuno i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a glynu at ei rheoliadau
  • cytuno i'r datganiad diogelu data
  • gwirio a diweddaru'r wybodaeth yn eich cofnod myfyriwr
  • talu eich ffioedd dysgu neu roi tystiolaeth o nawdd

Bydd y dasg cofrestru ar-lein ar gael i chi tua thair wythnos cyn dyddiad cychwyn eich rhaglen. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei gwblhau.

Nodwch mai dim ond am amser penodol y bydd y dasg cofrestru ar gael i chi, ac felly fe’ch cynghorir i gofrestru cyn gynted â phosibl.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch gasglu eich cerdyn myfyriwr, cael mynediad at ein holl gyfleusterau, derbyn eich taliad benthyciad myfyriwr cyntaf a mynychu digwyddiadau ymsefydlu eich Ysgol.

Sut i gofrestru ar-lein

Cyn dechrau ar y broses gofrestru byddwch angen y canlynol:

  • eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd
  • eich manylion cyswllt
  • lle bo hynny'n berthnasol, eich manylion talu (cyfrif banc, cerdyn credyd/debyd, manylion nawdd).

Gallwch gofrestru ar-lein drwy SIMS ar-lein.

Bydd angen i chi glicio ar y ddolen ‘SIMS: mewngofnodi ar-lein’ (ar waelod chwith y sgrin) yna defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yna cliciwch ar y ddolen ‘Dechrau Cofrestru’.

Dylech wirio’r wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch, a diweddaru hwn lle bo angen. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw wrth i chi gwblhau pob tudalen, mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu mynd yn ôl a gwneud newidiadau unwaith y byddwch wedi cwblhau pob tudalen felly dylech ddarllen a gwirio’r wybodaeth yn ofalus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio system ar-lein SIMS

Ar ôl cofrestru ar-lein

Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau cofrestru o fewn 24 awr. Nid yw'n angenrheidiol argraffu hwn.

Yn SIMS ar-lein, bydd y botwm 'dechrau cofrestru' yn diflannu a bydd botwm newydd 'cadarnhad o'r rhaglen astudio' yn ymddangos.

Os bydd angen i chi ddewis modiwlau dewisol, bydd dolen yn ymddangos unwaith yr ydych wedi cadarnhau eich rhaglen astudio. Efallai y bydd rhai ysgolion yn gofyn i chi fynychu digwyddiadau cofrestru/ymsefydlu yn yr ysgol cyn dewis modiwlau dewisol. Gweler amserlen eich Ysgol am ragor o wybodaeth.

Os bydd eich dewisiadau modiwl dewisol yn anghywir, gallwch eu hail-ddewis gan ddefnyddio'r cyfleuster dewis modiwlau, ac yna bydd angen i’ch Ysgol eu cymeradwyo.

Gallwch weld eich modiwlau ar unrhyw adeg yn SIMS drwy ymweld â’r adran cofnodion academaidd.

Trosglwyddo i raglen wahanol

Gallwch ofyn am drosglwyddo rhwng rhaglenni drwy dasg ar-lein unwaith y byddwch wedi cofrestru ar-lein. Rydym yn cynghori eich bod yn cael cymeradwyaeth academaidd gan eich Ysgol yn gyntaf. Noder efallai y bydd angen ail-asesu eich atebolrwydd ffi.

Dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr

Unwaith i chi orffen cofrestru ar-lein, byddwch yn awtomatig yn aelod llawn o Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig amrywiaeth o glybiau, cymdeithasau a gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i beidio ymaelodi gyda'r Undeb yn unol ag Adran 22 (2) (c) Deddf Addysg 1994. Os nad ydych chi'n dymuno ymuno, bydd angen i chi roi gwybod i'r Cofrestrydd Academaidd yn ysgrifenedig drwy Holi Caerdydd erbyn ail wythnos y tymor cyntaf neu o fewn 14 diwrnod o gwblhau'r cofrestriad ar-lein.

Cymorth gyda chofrestru ar-lein

Mae cofrestru ar-lein yn orfodol, ac rydym yn cynghori eich bod yn ei gwblhau cyn i chi gyrraedd Caerdydd - ond os na allwch gael gafael ar gyfrifiadur neu fynd ar-lein, gallwch gofrestru ar ôl cyrraedd yn y Brifysgol yn un o'n lleoliadau cofrestru lle bydd staff ar law i helpu.

Gallwch wneud hyn wrth bwynt casglu Carden Adnabod Myfyrwyr.

Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau canlynol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn ein Hadran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

  • Ceiswyr Lloches
  • Ymadawyr gofal
  • Anabledd a dyslecsia
  • Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
  • Cyn-filwyr y lluoedd
  • Ailbennu rhywedd
  • Lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws(rywedd)+
  • Crefydd a chred
  • Myfyrwyr sy'n ofalwyr
  • Myfyrwyr sy'n rhieini

Ymholiadau Cofrestru