Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth ariannol

Diweddarwyd: 27/02/2024 12:20

Cewch wybod am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ariannu eich cymorth anabledd.

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)

Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, gallech fod yn gymwys ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) fydd yn helpu i ariannu eich cymorth anabledd. Mae'r DSA yn lwfans ddi-brawf sy'n talu am unrhyw gostau astudio ychwanegol sy’n deillio o ganlyniad i’ch anabledd.

Gall DSA o bosibl eich helpu i dalu am:

  • offer arbenigol (e.e. meddalwedd, caledwedd ac offer ergonomaidd)
  • cynorthwywyr anfeddygol (e.e. cefnogaeth astudio arbenigol a mentora)
  • treuliau anabledd ychwanegol cyffredinol
  • costau teithio ychwanegol.

Cofiwch, mae'r lwfansau hyn ond ar gael i fyfyrwyr y DU drwy eich corff ariannu. Mae'r rhain yn cael eu rhoi'n ychwanegol at y pecyn myfyriwr safonol a gewch ac yn amodol ar amryw delerau ac amodau.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol neu UE ac yn gallu cael cymorth gyda'ch ffioedd dysgu, yna ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid DSA.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud eich cais am DSA drwy eich corff ariannu cyn dechrau ar eich cwrs. Cofiwch, gall y broses gwneud cais fod yn wahanol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac i rai sy'n astudio cwrs a ariannir gan y GIG.

Gwiriwch wefan eich corff ariannu am fanylion am sut i wneud cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud eich cais DSA, cysylltwch â ni.

Tystiolaeth ar gyfer eich cais

Pan ydych yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau bod gennych anabledd fel y'i diffinnir dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Gall tystiolaeth ategol gynnwys llythyr gan feddyg teulu neu feddyg ymgynghorol. Mewn achos o anhawster dysgu penodol, bydd angen adroddiad diagnostig gan asesydd cymwys addas.

Myfyrwyr Rhyngwladol a'r UE

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol neu o'r UE, cysylltwch â'ch llywodraeth gartref ar gyfer gwybodaeth am ariannu cymorth anableddau. Gall eich noddwyr o bosibl ddarparu grant ychwanegol i dalu am unrhyw gostau ychwanegol sydd gennych oherwydd eich anabledd.

Byddwn yn gweithio gyda chi i asesu eich anghenion ac i wneud addasiadau rhesymol i’ch cefnogi chi yn eich astudiaethau.

Gofal personol a chymorth

Mae angen gofal a chymorth personol ar rai o’n myfyrwyr i’w helpu â’u bywyd bob dydd fel cymorth gyda choginio, siopa, ymolchi neu wisgo.

Ni roddir y cymorth hwn gan y Brifysgol, ond byddwn yn gweithio gyda chi i roi cyngor a gwybodaeth ar drefnu cymorth â darparwyr ychwanegol a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, y Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn gyfrifol am ariannu eich pecyn gofal personol. Os ydych yn fyfyriwr yr UE neu’n fyfyriwr rhyngwladol mae’n bwysig i chi feddwl am sut y byddwch yn ariannu eich cymorth gofal personol (e.e. yn breifat, drwy noddwr neu ymddiriedolaeth elusennol) ac i drefnu’r cymorth hwn cyn i chi ddechrau byw ac astudio yng Nghaerdydd.

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr