Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl

Arloesi ar gyfer ymennydd a meddwl iach.

globe

Ymchwil sy’n arwain y byd

Gyrru arloesedd ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

people

Buddsoddi yn y dyfodol

Cefnogi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth.

molecule

Effaith gydweithredol

Gweithio mewn partneriaeth ag eraill i symud ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn ei blaen a sicrhau effaith.

Adrian Harwood holding a cell culture

Astudio

Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil eithriadol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer pob maes niwrowyddoniaeth.

Cyfleusterau Lab

Cyfleusterau

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau ymchwil.

Ymchwil Caerdydd a Bryste ar y cyd i Niwrowyddoniaeth

Dysgwch fwy am ein hanes hir o gydweithio â Phrifysgol Bryste.

Ein meysydd her

Defnyddio genomeg gyda data mawr

Mae gan waith i gyfuno genomeg â phŵer data mawr botensial mawr i roi syniadau newydd ynglŷn â haeniad anhwylderau’r ymennydd a datblygu llwybrau at driniaeth bersonol.

Manteisio ar bŵer niwrowyddoniaeth

Her fawr yw trosi canfyddiadau genomig yn fioleg sy'n berthnasol i glefydau.

Triniaethau newydd

Rydym yn defnyddio genomeg, ynghyd â dulliau newydd ym meysydd niwrowyddoniaeth a gwyddor data, i gyfrannu at ddatblygu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithiol ar gyfer rhoi triniaethau personol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd.

Gwella iechyd meddwl y gymdeithas

Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd yn heriau i’r gymdeithas. Mae 75% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn 18 oed.

Newyddion diweddaraf