Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogwch ni

Tîm Caerdydd yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2023
Rhedwyr #TîmCaerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd 2023

Ni fu deall rôl yr ymennydd ym maes iechyd a chlefydau erioed yn bwysicach gan fod un o bob pedwar oedolyn ac oddeutu un o bob deg plentyn yn y DU ryw fath o broblem iechyd meddwl. Amcangyfrifir bod hyn yn costio mwy na £115bn yn flynyddol i economi’r DU.

Trwy gyfraniadau gwerthfawr ein cefnogwyr, gall ein hymchwilwyr wella ein dealltwriaeth o’r cyflyrau hyn, gwella technegau diagnosis, a datblygu triniaethau arloesol newydd ar gyfer ystod o gyflyrau niwrolegol dinistriol. Mae'r gefnogaeth hanfodol hon ar gyfer ymchwil flaengar yn sicrhau bod therapïau newydd yn cael eu trosglwyddo o fainc y labordy i ymyl y gwely yn yr ysbyty.

Sut gallwch chi gefnogi cymorth niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhoi rhodd

Mae rhoddion hael yn cyfrannu arian sylweddol tuag at niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl bob blwyddyn. Mae rhoddion gan unigolion a sefydliadau yn hanfodol i sicrhau dyfodol y Sefydliad a sicrhau bod ein hymchwil hanfodol yn parhau.

Gwneud cyfraniad

Mae rhoddwyr sy'n rhoi £1,000 neu fwy mewn blwyddyn academaidd yn dod yn aelodau o Gylch Caerdydd. Rhagor o wybodaeth am wneud rhodd.

Os ydych yn sefydliad, ymddiriedolaeth neu sefydliad a allai helpu i’n cefnogi drwy grant neu dyfarniad, cysylltwch ag:

Eleanor Hewett

Eleanor Hewett

Uwch-reolwr Datblygu

Email
hewette@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0372

Rhoddion er cof

Mae llawer o bobl yn dewis gwneud eu rhodd er cof am rywun annwyl. Mae'n ffordd o goffau sy'n rhoi llygedyn o obaith. Cofiwch eich anwylyd gyda phlac enw yn ein gardd goffa. Rhagor o wybodaeth.

Gadael rhodd yn eich Ewyllys

Mae Rhoddion mewn Ewyllys yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth a chael effaith barhaol ar ddyfodol niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl. Gallwch chi helpu i wella diagnosis, triniaeth, a gofal am oesoedd i ddod. Gall ein Swyddog Cymynroddion helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Dysgwch fwy am adael rhodd yn eich Ewyllys.

Codi arian

Mae codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth a chael hwyl. Chi sy’n dewis sut i godi arian – heriwch eich hun trwy redeg Hanner Marathon Caerdydd neu drefnwch eich gweithgaredd neu ddigwyddiad codi arian eich hun. Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer ymchwil. Gall unrhyw un godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd ac mae ein Swyddog Codi Arian Cymunedol wrth law i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Cefnogaeth gorfforaethol

Mae codi arian corfforaethol yn ffordd wych o ymgysylltu â staff, hybu cyfeillgarwch yn eich tîm, bodloni amcanion cyfrifoldeb corfforaethol ac arddangos cefnogaeth eich sefydliad i niwrowyddoniaeth ac ymchwil chyflyrau iechyd meddwl. Rhagor o wybodaeth am godi arian corfforaethol.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â'n tîm codi arian i gael rhagor o wybodaeth.

Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr