Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd cyhoeddus

Professor Amanda Kirby lecture theatre


Bob blwyddyn rydym yn cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus i lywio a sbarduno trafodaethau ynglŷn â materion cyfoes ym maes y niwrowyddorau.

Mae'r holl ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, a chyntaf i'r felin yw hi o ran lluniaeth a chadw lleoedd.

Sefydliad Waterloo

Rydym yn cynnal darlithoedd cyhoeddus mewn cydweithrediad â Sefydliad Waterloo. Cynhaliwyd y ddarlith gyhoeddus ddiwethaf yn y gyfres ar 23 Mai 2019, rhwng 17:00 a 19:00. Cyflwynodd yr Athro Mark Carskadon ddarlith o'r enw 'Sut mae newidiadau mewn bioleg cwsg yn creu storm berffaith sy’n effeithio ar les pobl ifanc.

Canolfan Hodge

Rydym hefyd yn cynnal darlithoedd cyhoeddus mewn cydweithrediad â Chanolfan Hodge. Bydd y ddarlith nesaf yng Nghanolfan Hodge yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd 2020. Cafodd y ddarlith ddiwethaf yng Nghanolfan Hodge ei chynnal ar 21 Tachwedd 2019. Rhoddodd yr Athro Neil Harrison ddarlith o'r enw 'Inflammation and Depression: Too much of a good thing?'.

Mwy o fanylion am y darlithoedd cyhoeddus sydd ar y gweill.