Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigeddau a themâu

Rydym yn dathlu amrywiaeth creadigol a deallusol trwy arbenigeddau eang ond rhyng-gysylltiedig.

Mae ein hymchwil ni’n cydbwyso’r ymagweddau diwylliannol hanesyddol â’r rhai dadansoddol a beirniadol, ac yn hyrwyddo sbectrwm eang o fethodolegau, gan gynnwys braslun astudiaethau, ymchwil archifol, golygu a ffiloleg, dadansoddi testunol, iconograffeg, estheteg, theori ddiwylliannol, ethnograffeg, hanes llafar, microhanes, a’r dyniaethau digidol.

Cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio

Mae gennym arbenigedd ymchwil mewn disgyblaethau cyfansoddi, perfformio a cherddoleg, ethnogerddoleg a cherddoriaeth boblogaidd.

Mae ymchwil cerddoleg yn yr Ysgol yn amrywio o'r ddeunawfed ganrif i'r unfed ganrif ar hugain, gan gwmpasu cyd-destunau o Orllewin Ewrop, y Dwyrain Canol a Gorllewin Affrica. Mae prosiectau yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar gerddoriaeth Judith Weir, drymio crefyddol trawsiwerydd, a San Francisco yn y 1960au.

Mae cyfansoddiad cyfoes wedi bod yn rhan hanfodol o'r Ysgol ers ei sefydlu, gan gynnig ystod ffres ac amrywiol o ddulliau. Mae gan y staff cyfansoddi broffiliau rhyngwladol cadarn, ac maent wedi gweithio gyda chwmnïau yng Nghaerdydd a ledled y byd, gan gynnwys Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC a Cherddorfa Siambr Llundain.

Mae gennym enw da am berfformiad, ymarfer perfformio a recordiadau arloesol. Mae ein hymchwil mewn perfformiad hanesyddol yn dylanwadu ar arferion cyngherddau ledled y byd, gyda meysydd arbenigedd gan gynnwys perfformiad allweddellau (keyboard) hanesyddol a chyfoes, canu a chynhyrchu operatig.

Mae ymchwil yn yr Ysgol yn perthyn i bedair ffrwd allweddol:

Cerddoriaeth gyfoes fel ymarfer creadigol

Cerddoriaeth gyfoes fel ymarfer creadigol

Safbwyntiau diwylliannol, beirniadol a dadansoddol am ymarfer cerddorol creadigol ar ôl 1900.

Opera a drama gerddorol

Opera a drama gerddorol

Astudio opera o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw mewn ffordd ryngddisgyblaethol, hanesyddol a beirniadol-ddiwylliannol

Cerddoriaeth, gwrthdaro a chof

Cerddoriaeth, gwrthdaro a chof

Ystyried perthynas cerddoriaeth ag achosion o wrthdaro ar draws y byd.

Cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a lle

Cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a lle

Ehangu ein dealltwriaeth o ganolfannau cerdd pwysig a chwestiynu naratifau hanesyddol safonol.