Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Mae ein haelodau staff ar hyn o bryd yn ymchwilio amrywiaeth helaeth o bynciau cerddorol.

Mae gennym bortffolio amrywiol o brosiectau ymchwil, gan gynnwys llawer o fethodolegau megis braslun astudiaethau, dadansoddi, ymchwil archifol, golygu a ffiloleg, iconograffeg, estheteg, theori ddiwylliannol a chritigol, ethnograffeg, hanes llafar, microhanes, a’r dyniaethau digidol.

Sbotolau - gwaith newydd

Ar hyn o bryd, mae Dr Carlo Cenciarelli'n archwilio gwrando sinematig ac i ba raddau mae confensiynau sinematig bellach yn llywio ein dealltwriaeth o synau a delweddau y tu allan i'r sinema.

Dyma faes newydd o astudiaeth ryngddisgyblaethol gyda dau brif amcan:

  • Gwell dealltwriaeth o sut mae gwrando ar ffilmiau wedi'i wreiddio mewn arferion testunol, gofodol a hanesyddol penodol.
  • Archwilio sut y gallai dulliau gwrando ar ffilmiau estyn y tu hwnt i destunau, lleoedd a sefydliadau sinema.

Prosiectau cyfredol

Cerddoriaeth, gwrthdaro a theyrngaredd Wlster

Mynd i’r afael â rôl caneuon wrth annog trais yn ystod rhyfel a chyfreithloni trais strwythurol yn ystod heddwch.

Sopranos, Opera Eidalaidd a'r Fenyw Newydd

Sut y siapiodd sopranos o'r Eidal ryddfreiniad menywod a'r fenyw fodern.

Prosiectau blaenorol

Archwiliwch rai o'n prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a gwblhawyd yn y ddeng mlynedd ddiwethaf i gael mewnwelediad i'n harbenigedd a'n hangerdd.

Dinas y Goleuni: Paris 1900-1950

Rhannu arbenigedd gyda Cherddorfa Philharmonia.

Offerynnau Rhyfel

Dyfarnodd Prifysgol Caerdydd gymrodoriaeth ymchwil i Dr John Morgan O'Connell i astudio cerddoriaeth yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd ei gynnig, o’r enw Offerynnau Rhyfel, yn adlewyrchu diddordeb parhaus ynghylch rôl cerddoriaeth pan fydd gwrthdaro a lle cerddoriaeth wrth ddatrys gwrthdaro.

Mae casgliad Dr O’Connell a olygwyd yn 2010Music and Conflict (wedi'i gyd-olygu gyda Salwa El-Shawan Castelo-Branco) yn amlygu rôl cerddoriaeth wrth gymell a datrys sbectrwm o wrthdaro cymdeithasol a gwleidyddol yn y byd cyfoes. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar y pwnc ar gyfer y cyfnodolyn Ethnomusicology.

Roedd y dyfarniad hwn yn gyson â diddordeb ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd mewn coffáu'r Rhyfel Mawr yng Nghymru. Er mai’r bwriad yn wreiddiol oedd cyhoeddi deunyddiau yn ymwneud â cherddoriaeth yn Ymgyrch y Dwyrain Canol (1914-1918), roedd cynnig ymchwil Dr O'Connell hefyd wedi creu perthynas ar gyfer gwaith ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle mae cerddoriaeth yn cael ei hystyried yn rhan annatod o’r fenter ar y Rhyfel Byd Cyntaf.

Darllenwch gofnod blog wedi'i archifo i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ac am gerddoriaeth yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Staff cysylltiedig

Yr Athro John Morgan O'Connell

Yr Athro John Morgan O'Connell

Professor

Email
oconnelljm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0394

Opera a Pharodi

Pwysigrwydd diwylliannol gwawdluniau a pharodïau.

San Francisco a'r 60au Hir

Hanes diwylliannol cerddoriaeth yn San Francisco.

Fienna a Diwylliant Cerdd: 1700, 1800, 1900

Ymagwedd amgen hir-ddisgwyliedig at hanes cerddoriaeth yn Fienna.