Ewch i’r prif gynnwys

Canolfannau a grwpiau

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi creu platfform i gydweithio’n rhyngddisgyblaethol ym maes ymchwil, a hynny yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi.

Yn ein canolfan ymchwil flaenllaw, Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO), rydyn ni’n atgyfnerthu arbenigedd yr ymchwil operatig sydd gennym yn yr Ysgol yn ogystal â hwyluso gwaith ar y cyd ag ymarferwyr proffesiynol.

Nod Canolfan Ymchwil Cerddoriaeth Brydeinig Prifysgol Caerdydd (CUBRIT), a sefydlwyd yn ddiweddar, yw hyrwyddo ac ehangu ymchwil ar gerddoriaeth gelf Brydeinig yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, a hynny’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Ymweld â'n Canolfannau

Opera hall

Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO)

Mae Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO), yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil opera ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt.

Composing at a piano

Canolfan Ymchwil Cerddoriaeth Brydeinig Prifysgol Caerdydd (CUBRIT)

Rhwydwaith eang ydym ni, yn gweithio ar gerddoriaeth gelf Prydain ers 1900. Rydym yn croesawu amrywiaeth o gyd-destunau cerddorol, dulliau a golygfeydd, gan gynnal ymchwil ar amrywiaeth eang o gyfansoddwyr.

Henri Dutilleux yn derbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd

Ymchwil Cerddoriaeth Ffrengig Caerdydd (CFMR)

Yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth ymchwil mewn Cerddoriaeth Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu canolfan ar gyfer Ymchwil Cerddoriaeth Ffrengig (CFMR) i hyrwyddo astudio cerddoriaeth yn Ffrainc o’r ail ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain.