Ewch i’r prif gynnwys

Offerynnau Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd

Mae ein ensemble Chwyth Symffonig wedi perfformio darnau o Thomas Tallis i John Adams.

Gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach, mae'r Band Chwyth Symffonig yn croesawu chwaraewyr chwythbrennau, pres ac offerynnau taro o bob rhan o’r Brifysgol i ymuno a mwynhau eu harchwiliad o fyd cyfoethog repertoire chwyth.

O dan yr arweinydd presennol, Joe O'Connell, mae'r ensemble yn archwilio gweithiau canonig gan rai fel Gustav Holst ac Eric Whitacre wrth gyflwyno chwaraewyr a chynulleidfaoedd i repertoire newydd o bedwar ban byd gan gyfansoddwyr fel Jodie Blackshaw, Nicola Renshaw, a Kit Turnbull.

Mae'r Band Chwyth Symffonig yn cynnal cyngherddau rheolaidd ac yn cymryd rhan yn y National Concert Band Festival (NCBF): yng Ngŵyl Genedlaethol 2023 roedden nhw’n falch iawn o dderbyn Gwobr Aur yn y categori Band Chwyth Agored.

I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch Elin Jones.

Arweinydd yr Ensemble: Joe O'Connell

Mae Joe O'Connell yn ddarlithydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Hyfforddodd fel clarinetydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2007) ac mae ganddo ystod eang o brofiad perfformio ym myd cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd ynghyd â’i waith fel academydd.

Mae gan Joe gyfoeth o brofiad o weithio gyda cherddorion ifanc, wedi iddo arwain Band Chwyth Hŷn Sir Caerdydd a Bro Morgannwg a’i ragflaenydd, Band Chwyth Ieuenctid. Mae hefyd wedi gweithio fel tiwtor chwythbrennau a hyfforddwr ensemble siambr, yn breifat a gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Ifanc.