Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithrediad Piano

Mae Cydweithrediad Piano yn gyfres o weithdai wythnosol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu dawn gerddorol ensemble ac archwilio gwahanol agweddau ar berfformio piano cydweithredol.

Mae Cydweithrediad Piano ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwahodd pob myfyriwr i gymryd rhan mewn archwiliad ymdrochol o ddawn gerddorol ensemble. Mae’n croesawu pianyddion yn ogystal â chantorion ac offerynwyr o bob math, heb orfod cael clyweliadau. Anogir cyfranogwyr i ffurfio deuawdau, triawdau, neu bedwarawdau o offerynnau amrywiol – gan gynnwys o leiaf un pianydd bob amser – a thrwy hynny greu amgylchedd sy'n ffafriol i ddeialogau cerddorol cyfoethog. Mae'r sesiynau hyn wedi'u teilwra i gyd-fynd â'r sesiynau hyfforddi grŵp unigol a ddarperir gan aelodau eraill o staff.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Gweithdai wythnosol dan arweiniad Dr Ana Beatriz Ferreira
  • Ffurfio ensembles cydweithredol, gan feithrin twf rhwng cyfoedion
  • Archwiliad manwl o ddeinameg ensemble a thechnegau perfformio
  • Gwerthusiadau adeiladol gan gymheiriaid ac adborth gan hyfforddwyr
  • Meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau dadansoddi

Mae Cydweithrediad Piano hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr berfformio yn y datganiad flynyddol diwedd blwyddyn, sy'n agored i'r cyhoedd. Gyda repertoire yn amrywio o gerddoriaeth glasurol i gerddoriaeth bop, mae'r perfformiadau hyn yn benllanw gwaith cydweithredol a ddatblygwyd gan bawb sy'n cymryd rhan.

Dim ond myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd all ymuno â’r Ensemble Cydweithrediad Piano I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Elin Jones - JonesE159@caerdydd.ac.uk

Arweinydd yr Ensemble: Dr Ana Beatriz Ferreira

Mae Dr Ferreira yn bianydd mewn cyngherddau, yn ymchwilydd ac yn addysgwr. Mae ei gyrfa wedi ei harwain i berfformio mewn datganiadau unigol a cherddoriaeth siambr – ac mewn perfformiadau cerddorfaol fel unawdydd – mewn sawl lleoliad ym Mhortiwgal, Sbaen, y DU a Chanada.

Un o'i llwyddiannau mwyaf nodedig yw ei gwaith helaeth ar y Piano Concerto a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr enwog o Bortiwgal, Joly Braga Santos. Roedd y Concerto hwn yn sylfaen ar gyfer ei thraethawd doethuriaeth, carreg filltir arwyddocaol yn ei thaith academaidd. Cafodd ei pherfformiad cyntaf yn y DU o'r Concerto hwn ganmoliaeth gan y beirniaid, gyda The Classical Source yn ei disgrifio fel 'dehonglwr gwirioneddol wych.'

Mae gan Dr Ferreira radd Baglor mewn Cerddoriaeth (Anrhydedd) a gradd Meistr mewn Perfformio o'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle bu'n astudio dan diwtoriaeth mentoriaid nodedig fel Ruth Nye MBE, Gordon Fergus-Thompson, a Dina Parakhina. Daeth ei gweithgareddau academaidd i ben gyda PhD mewn Perfformio, a derbyniodd ysgoloriaeth lawn gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Mae hi wedi ennill sawl gwobr mewn cystadlaethau piano ac mewn cydnabyddiaeth am ei chyflawniadau ysgolheigaidd.

Ochr yn ochr â'i gyrfa berfformio, mae Dr Ferreira yn diwtor piano yn Conservatoire Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac yn Diwtor Ymarferol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cynnal dosbarthiadau meistr piano ym Mhortiwgal, dosbarth meistr i Brifysgol Silpakorn (Bangkok, Gwlad Thai), ac mae wedi cyflwyno ei gwaith ymchwil mewn cynadleddau yn Sheffield, Caergrawnt a Birmingham.