Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes

Mae’r Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes yn perfformio cerddoriaeth gyffrous a gafaelgar gan gyfansoddwyr byw i safon uchel mewn dau gyngerdd bob blwyddyn.

Gall unrhyw un gael clyweliad ar gyfer Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes gan ei fod yn grŵp hyblyg o chwaraewyr a chantorion yn perfformio cerddoriaeth o ddarnau unigol i gerddoriaeth ar gyfer ensemble lleisiol neu gerddorfa siambr.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes wedi perfformio cyngherddau o gerddoriaeth gyfoes o Dde Affrica, Portiwgal a’r DU, rhaglenni o gerddoriaeth finimalaidd, cerddoriaeth dan ddylanwad jazz a cherddoriaeth boblogaidd, a cherddoriaeth gan gyn-fyfyrwyr diweddar Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Elin Jones.

Cyfarwyddwr: Dr Robert Fokkens

Mae Dr Fokkens yn gyfansoddwr o Dde Affrica sydd wedi'i leoli yn y DU. Mae'n addysgu cyfansoddi i israddedigion a graddedigion yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Mae ei gerddoriaeth yn cael ei pherfformio’n rheolaidd mewn lleoliadau mawr yn y DU, De Affrica, yr Almaen, Sweden, yr Iseldiroedd, Awstralia, UDA a Japan. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei darlledu ar BBC Radio 3, gorsafoedd radio ABC (Awstralia), gorsaf radio P2 Sveriges Radio (Sweden) a gwahanol orsafoedd radio De Affrica.

Yn ogystal â llawer o gerddoriaeth siambr a cherddoriaeth ar gyfer ensembles mawr a cherddorfeydd, mae'n ysgrifennu'n aml ar gyfer y llais, yng nghyd-destun cyngherddau a dramâu.

Dr Robert Fokkens

Dr Robert Fokkens

Senior Lecturer in Composition

Email
fokkensr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4378