Ewch i’r prif gynnwys

Côr Siambr Prifysgol Caerdydd

Mae’r Côr Siambr yn archwilio repertoire sy'n amrywio o waith y Dadeni i gerddoriaeth gyfoes.

Rhwng 25-30 o gantorion sydd yn y côr ac maent yn perfformio sawl gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau clodfawr yng Nghaerdydd a thu hwnt. Yn 2019 fe aeth y côr i Tsieina, a pherfformio yn Xi’an, Xiamen, Guangzhou a Beijing. Yna yn haf 2023 fe aethon ar daith i Faleisia, gan berfformio mewn nifer o neuaddau cyngerdd pwysig Prifysgolion Maleisia (ar y cyd gyda ensemblau corawl o Brifysgol Sunway a UCSI Malaysia yn enwedig), yn ogystal â’r Christ Church Melaka hanesyddol.

O dan arweiniad Peter Leech mae’r côr yn cefnogi cydraddoldeb a chynwysoldeb mewn rhaglenni, gyda pherfformiadau diweddar wedi cynnwys cerddoriaeth gan Morfydd Owen, Maria Rosa Coccia, Johanna Kinkel, Jose Mauricio Nunes Garcia, Margarita Cozzolani, Olivia Sparkhall, Marianna Martines, Undine Smith Moore a llawer mwy. Mae’r côr yn cydbwyso hyn gyda detholiad a repertoire sefydlog gan William Byrd i Rufain yn y ddeunawfed ganrif (Casali a Bolis) hyd at heddiw gyda gweithiau gan James MacMillan, Jonathan Dove ac eraill.

Cynhelir clyweliadau bob blwyddyn ar gyfer lleoedd yn y côr. Mae croeso cynnes i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cerddoriaeth, er bod y rhan fwyaf o gantorion yn dod o'r Ysgol Cerddoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Elin Jones ar JonesE159@cardiff.ac.uk.

Arweinydd Peter Leech

Peter Leech
Peter Leech

Dechreuodd Peter Leech ei yrfa gerddorol yn Awstralia fel bachgen soprano ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel arweinydd proffesiynol yn Adelaide, Melbourne, a Sydney, cyn symud i'r DU ym 1996 i ymgymryd â PhD mewn Cerddoriaeth gyda Dr. Peter Holman MBE.

Yn 2003, enillodd Peter y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Mariele Ventre ar gyfer Arweinyddion Corawl (Bologna), ac ers hynny mae wedi datblygu enw da yn y DU a thramor ar gyfer dehongliadau ffres, arloesol a deinamig o amrywiaeth eang o repertoire corawl, gan amrywio o bolyffoni cynnar i gerddoriaeth gyfoes. Mae'r rhestr o ensemblau lleisiol y mae wedi'u harwain yn cynnwys The Song Company (Sydney), Coro Euridice (Bologna), y City of Oxford Choir, y Cathedral Singers of Christ Church Rhydychen, y Bristol Bach Choir, Côr Cerddorfa Genedlaethol Brenhinol yr Alban, Collegium Singers, Harmonia Sacra a Cappella Fede. Gyda The Song Company a Harmonia Sacra mae Peter wedi recordio CDs ar gyfer Tall Poppies a Nimbus Alliance, ac mae hefyd wedi ymddangos fel canwr ensemble ar label Hyperion.

Wedi'i hyfforddi’n wreiddiol fel arweinydd cerddorfaol (ar ôl astudio’r feiolín a’r allweddell), mae Peter hefyd wedi cydweithio â llawer o ensemblau offerynnol cyfnod blaenllaw yn y DU gan gynnwys Canzona a Frideswide Ensemble. Ar ôl sawl blwyddyn fel canwr proffesiynol yn Llundain, mae Peter wedi ymgartrefu yng Ngogledd Gwlad yr Haf ers 2009. Fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cyswllt yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015.