Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Inner workings of a piano

Rydym yn eich cefnogi yn eich datblygiad personol a phroffesiynol yn ogystal â'ch datblygiad academaidd.

Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau cerddorol a deallusol mewn ffordd a fydd yn berthnasol y tu mewn a'r tu allan i'r proffesiwn cerddoriaeth.

Rydym wrthi’n annog ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cerddorol a beirniadol sy’n addas i amrywiaeth eang o yrfaoedd a gweithleoedd.

  • Roedd 98% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).*

Gwella eich rhagolygon gyrfaol

Mae sgiliau cyflogadwyedd wedi’u hymgorffori yn ein modiwlau fel y byddwch yn dysgu sgiliau cerddoriaeth penodol fel perfformio (gwaith tîm), cyfansoddi (creadigrwydd), a dadansoddi (datrys problemau), a sgiliau academaidd fel rhesymu, darllen a deall, a chyfathrebu ar lafar ac ar bapur – sydd yn trosglwyddo’n rhwydd i feysydd eraill, ac i’r gweithle’n arbennig.

Mae myfyrwyr cerddoriaeth yn aml yn gallu dangos sgiliau a phriodoleddau sy'n eu helpu i sefyll allan o'r dorf wrth iddynt chwilio am swyddi. Mae ganddynt hunanddisgyblaeth (meddyliwch am yr oriau lawer o ymarfer); perfformio o dan bwysau (goresgyn nerfau i berfformio ar lwyfan ac mewn clyweliadau); sgiliau technegol (o ddefnyddio technoleg i greu a chofnodi cerddoriaeth); gwaith tîm (gweithio mewn cerddorfeydd ac ensembles); ac ymwybyddiaeth fasnachol (o reoli incwm o berfformio neu addysgu).

Mae creadigrwydd y pwnc yn helpu myfyrwyr cerddoriaeth i gael effaith yn y farchnad gystadleuol ar gyfer ceiswyr gwaith drwy gyflwyno eu hunain fel dysgwyr creadigol gyda'r gallu i gwrdd a goresgyn problemau a heriau.

Ble mae ein graddedigion yn mynd?

Mae llawer o'n myfyrwyr yn ymuno â'r proffesiwn cerddoriaeth mewn rolau fel:

  • gweinyddwyr celfyddydau
  • cyfansoddwyr
  • arweinwyr
  • llyfrgellwyr cerddoriaeth
  • perfformwyr
  • athrawon.

Mae myfyrwyr hefyd yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy'n dangos sut y gall gradd mewn cerddoriaeth eich helpu i ennill y sgiliau a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i gadw'ch opsiynau ar agor drwy gydol eich bywyd gwaith.

Mae’r llwybrau gyrfa yn cynnwys:

  • datblygu gwefannau
  • newyddiaduraeth
  • marchnata
  • y gwasanaeth sifil
  • rheoli
  • Y gyfraith

Beth rydym yn ei gynnig

Rydym yn darparu nifer o gyfleoedd i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa a gwella eich cyflogadwyedd.

Mae ein sgyrsiau am yrfaoedd ym maes Cerddoriaeth yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â phobl broffesiynol mewn meysydd megis perfformio, addysg cerddoriaeth (gan gynnwys anghenion arbennig), rheolaeth y celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, yn ogystal â chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Nod y modiwlau israddedig hyn yn yr ail flwyddyn yw rhoi gwell dealltwriaeth ichi o fyd cerddoriaeth ac ymgorffori lleoliad gwaith yn rhan o’r cwricwlwm. Mae'r modiwlau hyn yn rhoi’r cyfle ichi gael gwybodaeth a phrofiad uniongyrchol mewn maes proffesiynol o'ch dewis a gwella eich cyflogadwyedd yn y broses.

Nod y modiwl hwn ar ein rhaglen Meistr yw galluogi perfformwyr a chyfansoddwyr i ddatblygu a gwneud cyflwyniadau llafar effeithiol a llawn dychymyg sy’n trafod syniadau cerddorol. Byddwch chi’n cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ynghyd â’ch ymwybyddiaeth o fyd cerddoriaeth.

Rydyn ni’n cynnig rhaglen Cynllunio Datblygiad Personol (CDP) ffurfiol sy’n ddewisol. Mae'r cynllun hwn yn eich galluogi i adnabod pa rai yw eich nodau personol, academaidd a phroffesiynol, monitro eich datblygiad tuag at eu cyflawni a gwerthuso’r hyn a gyflawnir gennych.

Mae'n bosibl na fydd cyflogwyr bob amser yn deall lefel y gwaith sy'n gysylltiedig â gradd mewn cerddoriaeth ar unwaith, felly mae’n bwysig eich bod yn adnabod eich sgiliau eich hun ac yn eu cyfleu’n glir. Bydd y rhaglen CDP yn eich cynorthwyo i wneud hyn a gwerthuso'r ymrwymiad, yr ymroddiad a'r cyfrifoldeb rydych chi wedi'u dangos drwy gydol eich gradd.

Y DU.

Yn ogystal â lleoliadau a gynigir yn rhan o fodiwlau Busnes Cerddoriaeth, mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP), sef un o gynlluniau ymchwil israddedig mwyaf y DU, yn cynnig lleoliadau haf i israddedigion drwy gymryd rhan yn niwylliant ymchwil y Brifysgol. Cynigir bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr ar leoliad o hyd at wyth wythnos o hyd, gan weithio dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil a ddiffinnir gan y staff.

Rhyngwladol

Mae gan ein myfyrwyr y cyfle i weithio neu wirfoddoli dramor drwy Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol.

Mae gan ein panel myfyrwyr-staff fyfyrwyr sy’n cynrychioli pob un o’n cynlluniau israddedig ac ôl-raddedig. Yn ogystal â bod yn bont rhwng myfyrwyr a staff yng nghyfarfodydd y Panel, gofynnir hefyd i'r cynrychiolwyr etholedig hyn wasanaethu ar ystod o bwyllgorau’r Ysgol.

Mae bod yn aelod o’r panel yn golygu y gallwch chi gael profiad o fod yn aelod o bwyllgor, prosesau gwneud penderfyniadau a gweithdrefnau gweinyddol.


*Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.