Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Mentoriaeth Academaidd Glinigol

Student getting advice

Mae Cynllun y Mentora Academaidd Clinigol yn cynnig cyfle cyffrous i niwrowyddonwyr clinigol addawol roi hwb i’w gyrfaoedd academaidd.

Mae’r cynllun yn cynnig profiad gwerthfawr o ymchwil gan anelu at baratoi a chyflwyno ceisiadau am gymrodoriaeth ymchwil gyda chymorth uwch fentor academaidd.

Mae’r gymrodoriaeth yn un hyblyg sydd wedi’i threfnu yn ôl anghenion unigol. Er enghraifft, cewch chi ddod bob wythnos neu bythefnos i weithio mewn labordy, ymweld â chlinig i gleifion allanol, dadansoddi data clinigol a lleyg cymhleth neu ysgrifennu papur.

Mentora

Bydd hyfforddeion yn cael uwch fentor academaidd clinigol a mentor iau (cyfaill) sy'n hyfforddai academaidd clinigol cyfredol yn y ganolfan.

Gallai fod prosiect gyda chi mewn cof eisoes gydag uwch ymchwilydd penodol neu, ar y llaw arall, cewch chi ddewis maes o ddiddordeb ar ôl cwrdd ag amryw ymchwilwyr o wahanol feysydd.

Hawl i gyflwyno cais

I gael ymgeisio, dylech chi fod o dan hyfforddiant arbenigol (seiciatreg neu niwroleg) gyda diddordeb cryf mewn ymchwil academaidd glinigol.

Bydd y gymrodoriaeth hon yn addas i hyfforddeion sy'n ystyried cynnal prosiectau ymchwil penodol, yn ogystal â'r rhai sy'n dilyn gyrfa academaidd.

Bydd ymddiriedolaeth leol y GIG yn rhoi cytundeb er anrhydedd i bob cymrawd sy’n ymwneud â chleifion.

Meini prawf hanfodol

  • Rhaid bod yn hyfforddai clinigol (unrhyw gam) a chanddo dystiolaeth o ddiddordeb mewn ymchwil academaidd glinigol.
  • Medrau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur ynghyd â thystiolaeth o’r gallu i gyfleu gwybodaeth y gallai fod angen ei hesbonio neu ei dehongli’n ofalus mewn modd eglur, cywir a thringar.
  • Medrau trefnu ardderchog, gyda gallu diamheuol i flaenoriaethu a chadw at amserlenni yn ôl fframwaith rhaglen y cytunwyd arni.
  • Gallu amlwg i ddadansoddi a dehongli canlyniadau ei ymchwil a dyfeisio syniadau gwreiddiol yn ôl deilliannau.
  • Medrau trefnu ardderchog, gyda gallu diamheuol i flaenoriaethu a chadw at amserlenni yn ôl fframwaith rhaglen y cytunwyd arni.
  • Syniadau arloesol a gwreiddiol, gyda'r cymhelliant i gyflawni gwaith academaidd trylwyr o safon.
  • Gradd meddygaeth.

Meini prawf defnyddiol

  • Profiad o lunio, cynnal a chyflwyno a/neu gyhoeddi ymchwil.
  • Gwybod am lunio ac ymddwyn ynghylch ymchwil.

Ceisiadau

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, a bydd y cystadlu’n gryf. Wrth gyflwyno cais, rhaid atodi CV byr (heb fod dros bedair tudalen) ynghyd â llythyr i esbonio pam yr hoffech chi fod yn gymrawd ymchwil a pha fath o yrfa rydych chi’n anelu ati.

I ofyn am ragor o wybodaeth a chyflwyno cais, cysylltwch â'r Athro George Kirov: kirov@cardiff.ac.uk.