Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

A researcher working in the HEB lab

Mae Canolfan ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn dod ynghyd ag ymchwilwyr sy'n arwain y byd er mwyn ymchwilio i brif achosion problemau iechyd meddwl.

Sefydlwyd y ganolfan yn 2009 a dyma Ganolfan MRC gyntaf Cymru a'r grŵp geneteg seiciatrig mwyaf yn y DU. Rydym yn dod â'n harbenigedd clinigol, genomig, ystadegol a biowybodeg ynghyd i fynd i'r afael â'r heriau y mae anhwylderau seiciatrig, niwroddatblygiadol a niwroddirywiol yn eu cynnig.

Ein prif amcanion yw deall sut mae'r anhwylderau hyn yn codi, datblygu dulliau newydd o wneud diagnosis ac adnabod targedau triniaeth newydd. Yn y pen draw, ein nod yw dod yn brif ganolfan niwrowyddoniaeth drosiadol.