Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Ymgollwch mewn iaith a diwylliant arall drwy gael profiad unigryw yn treulio blwyddyn dramor.

Mae'r cyfle i dreulio blwyddyn dramor yn rhan hanfodol o'ch cwrs ac yn amhrisiadwy o ran datblygiad eich sgiliau iaith. Bydd hefyd yn gyfle cyffrous i chi gael cwrdd â phobl newydd ac i ddysgu mwy am y wlad a ddewiswyd gennych.

Mae trydedd flwyddyn pob cwrs iaith yn cynnwys blwyddyn dramor naill ai fel myfyrwyr yn un o'n prifysgolion partner, fel cynorthwyydd iaith mewn ysgol dramor, neu ar leoliad gwaith.

Bydd myfyrwyr sy'n astudio un iaith yn treulio blwyddyn lawn yn eu gwlad letyol, ond os ydych wedi dewis astudio dwy iaith, byddwch yn treulio semester ym mhob gwlad.

Sgiliau ar gyfer bywyd

Mae blwyddyn dramor yn werthfawr tu hwnt, nid yn unig ar gyfer datblygu hyfedredd yn yr iaith, ond hefyd am eich datblygiad personol.

Mae'r hyblygrwydd, annibyniaeth a'r sgiliau datrys problemau a ddatblygir yn ystod y flwyddyn hon yn aml yn cael eu crybwyll gan gyflogwyr fel bod yn nodweddion atyniadol iawn ar gyfer cyflogi myfyrwyr iaith ar ôl graddio.

Cytunodd nifer o'n cynfyfyrwyr bod ymgolli mewn diwylliant ac iaith gwlad arall yn un o brofiadau gorau eu bywyd.

Astudio

Rydym wedi datblygu nifer o bartneriaethau gyda phrifysgolion blaenllaw, sy'n golygu bod gennych chi'r cyfle i astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig ac ysbrydoledig y byd.

Mae lleoliadau'n cynnwys Paris, Berlin, Milan a Barcelona, yn ogystal â phrifysgolion ymhellach i ffwrdd fel Lima yn Peru, Guadalajara ym Mecsico a Beijing yn Tseina.

"Astudiais i dramor yn Sbaen a'r Almaen. Fe wnaeth y profiad wella fy sgiliau iaith yn sylweddol, a fy ngallu i addasu i sefyllfaoedd newydd yn gyflym. Rwy’n credu bod hwn yn eich paratoi’n dda i symud i fyd gwaith. Rwy’n siŵr y byddaf yn wynebu llawer o heriau newydd y bydd angen i mi allu eu datrys yn annibynnol."
Peta Jarvis Ieithoedd Modern a Chyfieithu (BA)

Addysgu

Mae gan fyfyrwyr y cyfle i weithio â'r Cyngor Prydeinig fel cynorthwywyr dysgu rhan-amser, naill ai mewn dinas neu dref gwledig.

Mae'r opsiwn yma'n darparu profiad gwych a chyflwyniad gwych i addysgu, yn ogystal â'ch galluogi i ennill cyflog.

Darparwyd hyfforddiant gan y Cyngor Prydeinig yn y lleoliad a ddewiswyd gennych, a byddwn yn darparu arweiniad am lety.

"Wrth i mi feddwl am fy mhrofiad o astudio dramor, rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi tyfu’n bersonol, ac am y ffordd mae’r profiad wedi fy mharatoi ar gyfer y dyfodol. Mae'r atgofion wnes i eu creu, y ffrindiau y gwnes i a'r gwersi a ddysgais i wedi dod yn rhan annatod o bwy ydw i heddiw. Roedd yn brofiad anhygoel, a bydden i’n gwneud y cyfan eto!"
Asha Dein Sbaeneg ac Athroniaeth (BA)

Gweithio

Work placement video

Mae rhai'n dewis trefnu eu lleoliad gwaith dramor mewn sefydliad neu gwmni, fel y cytunwyd gan yr ysgol.

Mae'n bwysig bod y rôl a ddewiswyd gennych yn eich galluogi i ymarfer eich iaith am ymgolli mewn diwylliant eich gwlad ddewisol.