Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Three female students looking at a laptop

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn iaith a diwylliannau, rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau gradd anrhydedd sengl a chyd-anrhydedd i ddewis o'u plith.

Ieithoedd a diwylliannau

Nod ein cyrsiau, y bydd siaradwyr brodorol yn eu haddysgu, yw rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu lefel uchel o hyfedredd yn eu dewis iaith (ieithoedd) yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr o’r diwylliannau sy’n dylanwadu arnyn nhw. Gallwch chi astudio pob un o’n hieithoedd ar lefel dechreuwyr neu lefel uwch.

Rydyn ni’n cynnig y cyrsiau iaith canlynol:

Mae ein cyrsiau'n hyblyg iawn ac yn eich galluogi i ehangu eich diddordebau drwy ystod o fodiwlau dewisol.

Cyfuno ieithoedd â phynciau eraill

Gradd cyd-anrhydedd yw'r dewis perffaith ar gyfer y rheini a fyddai'n hoffi cyfuno eu diddordebau. Mae llawer yn dewis cyfuno dwy o’r ieithoedd a addysgir yn yr Ysgol. Mae opsiynau eraill megis cyfuno gwleidyddiaeth ac ieithoedd tramor modern hefyd yn boblogaidd. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau cyfnod o flwyddyn dramor pan fydd iaith yn un o'r ddau bwnc a ddewisir yn rhan o gynllun cyd-anrhydedd.

Cyfieithu

Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnig rhaglenni cyfieithu arbenigol sy’n rhoi sgiliau cyfieithu ymarferol a phroffesiynol yn ogystal â hyfforddiant iaith manwl i’n myfyrwyr, ynghyd â’r cyfle i gael meistrolaeth ragorol ar ddwy iaith fodern. Mae ein graddau cyfieithu ar gael ar sail rhaglenni astudio tair neu bedair blynedd.

Pam astudio ieithoedd gyda ni?

Felly rydych chi eisiau astudio ieithoedd ond heb fod yn siŵr pa brifysgol sy'n iawn i chi? Gan fod gennym ni enw da am ragoriaeth, athrawon brodorol arbenigol, cyfleusterau o safon ac ysgol sy’n fywiog ac yn amlddiwylliannol, rydyn ni’n cynnig y profiad gorau i israddedigion.

Nid yn unig hynny, ond mae Prifysgol Caerdydd wrth galon prifddinas fywiog Cymru. Rydyn ni'n gwarantu y byddwch chi'n mwynhau darganfod y bywyd nos bywiog, lleoedd gwych i fwyta ac yfed, theatrau, sinemâu a llawer mwy sydd gan Gaerdydd i'w gynnig.

Cyfleoedd ariannu

Rydyn ni’n cynnig bwrsariaethau i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr israddedig sydd fel arfer yn byw yn y DU neu o gefndiroedd incwm is. Mae'r arian hwn ar gael ar ben y grantiau cynhaliaeth a benthyciadaua ariennir gan y wladwriaeth.