Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Addysgu Myfyrwyr

Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr gael profiad ym maes ymarfer dysgu drwy fodiwl dewisol yn eu blwyddyn olaf.

Mae'r Cynllun Addysgu Myfyrwyr (sy’n rhan o’r modiwl Addysgu Myfyrwyr) yn caniatáu i chi fynd i ysgolion uwchradd lleol ac addysgu disgyblion sy'n dysgu ieithoedd tramor.

Bydd gan ein myfyrwyr y cyfle i arsylwi addysgu gan weithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, a chynhyrchu deunyddiau dysgu newydd.

Bydd hyn yn ei dro yn gwella eu sgiliau TGCh, cyflwyno, paratoi a threfnu ac, yn y pen draw, eu cyflogadwyedd.

Bydd y myfyrwyr hynny sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn addysgu yn cael profiad gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i fwydo i mewn i'w cais TAR. Bydd gan y myfyrwyr hyn hefyd y cyfle i gymryd sesiwn hyfforddiant pwrpasol (dewisol) ar gyfer ceisiadau TAR gydag arbenigwr yn y maes.

Cysylltwch â ni

Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â’n graddau israddedig neu gallwch chi gysylltu â:

Picture of Caroline Lynch

Dr Caroline Lynch

Uwch Ddarlithydd mewn Eidaleg

Telephone
+44 29208 75637
Email
LynchC3@caerdydd.ac.uk